Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWE. MAWRTH, 1875. § ŵgföẃìr §ttÿìftpL GAN Y PARCH. S. EVANS, HEBRON. "Yr Arglwydd a roddes y gair; mawr oedd mintai y rhai a'i pregethent." " Ewch i'r holl fyd, a phregethwch yr efengyl i bob creadur." " Fe welodd Duw yn dda trwy ffolineb pregethu gadw y rhai sydd yn credu." Gelwie, Noe yn bregethwr cyfiawnder. Cyn hyny yr oedd Enoch, y seithfed o Adda, yn pregethu, canys y mae proffwydo a phregethu agos yn gyfystyr. Pa bryd y dechreuwyd cadw cyfarfodydd pregethu nis gwyddom, ond tebyg eu bod er dechreuad crefydd gymdeithasol. Gwyddom fod "i Moses yn rahob dinas, er yr hen amseroedd, rai a'i pregethent ef, gan fod yn ei ddarllen yn y synagogau bob Sabboth." Y mae pregethu i barhau dan yr oruchwyliaeth hon, fel y dywed Paul (Titus i, 3), " Mewn amser- oedd priodol efe a eglurhaodd ei air trwy bregethu, am yr hyn yr ym- ddiriedwyd i mi, yn ol gorchymyn Duw ein Hiachawdwr." Cywir y dy- wed Catecism y Gymanfa fod " Ysbryd Duw yn gwneuthur darlleniad, yn enwedig pregethiad y gair, yn fodd rhinweddol i argyhoeddi ac i droi pechaduriaid ; ac i'w hadeiladu hwynt mewn santeiddrwydd a dyddanwch, trwy ffydd i iachawdwriaeth." Y mae i bregethu ddau nod, neu yn fwy priodol, ddau arweddiad, i'r un amcan mawr—cadwedigaeth yr enaid. Un yw dychweliad y byd; y lla.ll yw adeiladaeth yr eglwys. Pan yn amcanu at y blaenaf, gelwir y pregethwr yn efengylwr, a baich y genadwri yw trefn y cymod. Pregetha yr efengyl—ddyfod Crist Iesu i'r byd i gadw pechaduriaid. Dyma y gwirionedd mawr am fywyd y byd. Egluro—perswadio dynion i dderbyn y gwirionedd hwn, a chredu yn y Crist, fel y caffont fywyd yn ei enw ef, yw gwaith yr efengylwr. Yma y mae y maes yn gofyn am holl fedr yr areithiwr hyawdl. Y mae angerddol- deb ystyeyd, grym, pereidd-dra, a thoddiad llais, hanesion tarawiadol, &c, oll yn briodol a bendithiol; ac y mae Pen yr eglwys wedi gweled yn dda i barhau i ni y cyfryw efengylwyr galluog. Gwerthfawr yw eu gwasan- aeth mewn cyfarfodydd achlysurol a chymanfaoedd. Gellir dywedyd am danynt agos fel y dywedodd Paul am lefaru â thafodau, " Am hyny tafodau ydynt arwydd, nid i'r rhai sydd yn credu, ond i'r rhai digred; eithr proffwydoliaeth, nid i'r rhai digred, ond i'r rhai sydd yn credu." Proffwydo yw llefaru wrth ddynion "er adeiladaeth, a chynghor, a chysur," neu bregethu. Nod y pregethu hyn yw adeiladaeth yr eglwys. Athraw neu ddysgawdwr yw y pregethwr. Pregetha y gair, yr holi air,