Skip to main content

Y DIWYGIWE CHWEFROR, 1875. GAN Y PARCH. J. DAYIES, IETWEN, GLANDWR. " Htn hefyd a ddaw oddiwrth Arglwydd y lluoedd, yr hwn sydd ryfedd yn ei gynghor ac ardderchog yn ei waith."—Es. xxviii. 29. " Gan ddywedyd, Mawr a rhyfedd y w dy weithredoedd, O Arglwj'dd Dduw Hollalluog; cyfiawn a chywiryw dy ffyrdd di, Brenin y saint."—Dad. xv, 3.* Ye ydym yn byw mewn byd sydd yn llawn rhyfeddodau. Gwnaed ni ein hunain yn "rhyfedd ac ofnadwy." (Salm cxxxix. 14.) Buynhoffgan feddyliau da a phwyllog aros a myfyrio ar ryfeddodau y byd, gan addoli a moli y Duw yr hwn a'u gwnaeth. Ehaid i ni heddyw droi o'r neilldu i'r byd naturiol a materog, yr hwn o wnaeth Duw yn llawn rhyfeddodau, gan edrych ychydig ar ffyrdd rhyfeddol Duw at ddyn fel y gwelir hwynt yn ei hanes. 1. Ni a ganfyddwn ryfeddodau Duw at ddyn yn ei " gynghor rhyfedd a'i waith ardderchog " yn ei ddechreuad a'i wneuthuriad. Gwelwn hwynt yn ngwneuthuriad ei gorff o bridd y ddaear. " A'r Arglwydd Dduw a luniasai ddyn o bridd neu o lwch y ddaear." (Gen. ii. 7.) " Oblegyd o honi y'th gymerwyd, canys pridd wyt ti, ac i'r pridd y dychweli." (Gen. iii. 19.) Y mae gwneuthuriad y fath beth ag yw corffdyn o bridd y ddaear yn ymddangos i ni yn anmhosibl, ond " gyda Duw pob peth sydd bosibl." Yn ngwneuthuriad ei einioes. " Ac a anadlodd yn ei ffroenau ef anadl einioes, a'r dyn a aeth yn enaid byw." (Gen. ii. 7.) Pa beth oedd yr anadliad hwn, a pha fodo" y daeth y corff marw hwn yn greadur byw, ymwybodol o'i hanfod ei hun, a phethau ereill oedd y tu faes iddo. Nid 068 neb a ŵyr ond y Duw yr hwn a'i gwnaeth. Ýn ngwneuthuriad ei ysbryd o'i fewn. Pa beth yw hwn ? Pa bryd y gwnaed ef ? 0 ba le a * Traddodwyd y sylwadau canlynol ya Nglandwr, sir Benfro, Ebrill 13eg, 1874, yn angladd Mr. John Griffiths, masnachydd, Maengwyn, yn mhlwyf Llandyssilio. Unig fab ydoedd i'r diweddar Barch. W. Griffiths, o'r lle uchod. Bu farw yn 54 oed, yn mharch ei gydnabyddiaeth &i gymydogion yn gyffredinol o herwydd ei gj'wirdeb fel masnachydd a'i garedigrwydd gwastadol, Tra yn aros pan yn ieuanc yn Narberth, derbyniwyd ef i aeìodaeth eglwysig yn y Tabernacl. Gwedi iddo ymsefydlu yn Maengwyn ymunodd mewn cj*mundeb â hen eglwys èi dad, ond ei fod mewn cyfeillach gariadus, a chymundeb hefyd, ag eglwys Nebo, gan ei fod yn byw mor agos i'r lle. Yr oedd yn wr diargyhoedd hynod o fucheddol. Fel ei dad, daeth dyryswch droion dros ei reswm a'i bwyll. Gwedi i'r afiechyd ymadael, ceid ef yn ymaflyd yn ngwaith yr Arglwydd fel o'r blaen. Yr oedd peth dyry'swch arno pan glafychodd. Bu farw o fflameg yn yr ysgyfaint. Cafodd angladd îluosog iawn, a chladdwyd ef yn ymyl ei dad a'i fam. Bu yn weddw dros ei oes.