Skip to main content

Y DIWYGIWR. TACHWEDD, 1874. Y mae cerddoriaeth, yn egwyddorol ac ymarferol, wedi cael sylw mawr gan bod enwad crefyddol trwy holl wledydd cred yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf. Achoswyd yr holl sylw hyn gan deilyngdod y wyddor, gogoniant egwyddorion, dymunoldeb ymarferiadau, afreoleidd- dra cyflawniadau, a diffygion mawrion ein llyfrau cerddorol. - Bu y canu celfyddydol yn feistrolgar, pan oedd y canu crefyddol yn hynod afler. Cenid emynau a thônau hollol ddisylwedd ac anghymhwys mewn addol- iadau crefyddol. Halogid yr emynau goreu gan dônau dienaid, a llawer o'r tônau mwyaf sylweddol gan emynau ffug-farddonol ac israddol. Nid rhyfedd i'r fath fonglerwch effeithio ar ddynion o ŵybodaeth a chwaeth, nes codi awydd anorchfygol ynddynt i gyhoeddi casgliadau teilwng o emynau a thônau at wasanaeth y cysegr. Llwyddwyd yn hyn i raddau mor ddymunol, fel y cynyrchwyd gwelliantau eglur yn yr adranau hyn o addoliadau y Duw mawr. Y llyfr emynau welsom gyntaf oedd eiddo y peraidd- ganiedydd Williams, Pantycelyn ; a'r llyfrau tônau cyntaf y beiddiasom lygadu arnynt oeddynt, " Gwaith Lloyd," fel y gelwid ef y pryd hwnw ; a "Telyn Seion,'' gwaith Mr. Eosser Beynon, Merthyr Tydfil—llyfrau da, yn cynwys tônau ac anthemau cysegredig at wasanaeth côrau a chynulleidfaoedd. Cyhoeddodd y Parch. Samuel Eoberts yr argraffìad cyntaf o'r " Ddwy Fil Emynau " yn y flwyddyn 1841. Llyfr rhagorol, ac fe wasanaethodd ei genedlaeth yn ardderchog am 30 mlynedd. Y mae ynddo luaws o ddewis-emynau, y rhai nid ânt yn anghof i dragywyddoldeb. Cyhoeddodd Ieuan Gwyllt ei lyfr tônau cynulleidfaol yn y flwyddyn 1859. Nid hir y bu y canu cynulleidfaol heb wella yn fawr ar ol ei ymddangosiad. Yr oedd y Methodistiaid a'r Annibynwyr yn alluog i gydganu mewn cyfarfodydd cyhoeddus yn fuan ar ol hyny, gan mai yr un testyn-lyfr oeddynt yn ddeínyddio.' Yn y flwyddyn 1868, wele y " Llyfr Tônau ac Emynau" gan y Parch. E. Stephen, a J. D. Jones, yn gwneud ei ymddangosiad, ac yn cynwys llawer o'r un emynau a thônau ag oeddynt wedi eu cyhoeddi yn flaenorol; ond eu bod wedi eu newyddu gan gyfnewidiadau. Cafodd Emyn Lyfr S. E., a Llyfr Tônau Ieuan Gwyllt, eu troi o'r neilldu yn ffafr y llyfr hwnw mewn lluaws o fanau yn ddiatreg; nid o herwydd fod yr emynau a'r tŵau gymaint yn well yn y naill na'r lleill, ond o herwydd fod y tônau â'r*mynau ar yr un tudalenau. Y mae hyny yn fantais i'r canwyr yn ddidà>dl, o herwydd y mae yn hawddach trafod un líyfr na dau. Yn y flwyddyn 1873 eto, dyma fí Aberth Moliant" yn cael ei gyhoeddi, dan olygiaeth y Parchn. William 41