Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. MEDI, 1874. UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMREIG. Cadeirydd—Y Paroh. W. GEIFFITH, Caergybi. Ysgrifenyddiois- <f Y Paech' D' M' JENKINS, Treforris, X8GRIFENYDDI03S j y p^^ ^ j MQEEIgj pontypridd. Trysorydd—T. WILLIAMS, Ysw., Goitre. Cynaliwyd cyfarfodydd yr Undeb eleni yn Merthyr Tydfil, Awst y 4ydd, y 5ed, a'r 6ed. Dechreuasant y nos gyntaf am 7 o'r gloch, yn Soar, pryd y gweddiodd y Parch. J. Thomas, Liverpool, ac y traddodwyd pregethau yr Undeb gan y Parch. R. S. Williams, Bethesda, oddiwrth 2 Cor. v. 14, 15 ; a chan y Parch. W. Evans, Aberaeron, oddiwrth Mat. ix. 37, 38. Boreu yr ail ddydd, am 7 o'r gloch, cynaliwyd cynadledd yn Ynysgau, dan lywyddiaeth y Parch. S. Evans, Hebron, Penfro. Wedi dechreu drwy weddi gan y Parch. H. Jones, Birkenhead, darllenwyd y papyr canlynol gan y Parch. J. Jones, Machynlleth :— t\w% ú%xd. Felly y mae geiriad y pwnc a ymddiriedwyd i mi ar gyfer y cyfarfod hwn. Yr wyf yn teimlo ei fod i raddau yn anmhenodol, gan na ddywedir wrthym, ar y naill law, at ba blant y cyfeirir,ŵ nac ar y llaw arall, at ba eglwys. Awgrymir fod i'r plant hyn safle yn yr eglwys y cyfeirir ati; ond gall hyn fod yn golygu safle plant yn gyffredinol yn yr eglwys fawr gyffredinol drwy y ddaear a'r nefoedd. Gwyddom ar dystiolaeth bendant ein Harglwydd Iesu fod i blant bychain eu safle yn yr eglwys hono. Ymhyfrydai ef ynddynt, fel y cyfryw, pan ydoedd ar y ddaear. Yn wyneb ymyriad dieisieu y dysgyblion i'w cadw oddiwrtho, ac i geryddu y sawl a'u dygent\atô, dywedai wrthynt, " Gadewch i blant bychain, ac na waherdd- wch iddyht ddyfod ataf fì; canys eiddo y cyfryw rai yw teyrnas nefoedd." Mat. xix. 14. At deyrnas gras ar y ddaear, y mae yn ddiau, y cyfeirir ganddo yn benaf yn y geiriau hyn ; ond y mae hono mewn undeb â'r deyrnas mewn gogoniant. A chyda golwg ar y deyrnas hono, dywedai ein Harglwydd wrth ei ddysgyblion, "Edrychwch na ddirmygoch yr un o'r rhai bychain hyn : canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, fod eu hangel- 33