Skip to main content

Y DIWYGIWR. AWST, 1874. GAN Y PARCH. B. WILLIAMS, OANAAN. Pwy ydyw Tomos Dafydd, a pha le mae Glanyrafon ? Enw cyffredin ar luaws o feibion Cymru yw Tomos Dafydd, ac adnábyddir llawer mangre lonydd wrth yr enw barddonol G-Ianyrafon. Ond y mae ein meddwl wrth ysgrifenu y llinellau hyn yn cymdeithasu agw» Tomos Dafydd yn neill- duol, ac erys ein myfyrdod gydag m Glanyrafon, gan adael pawb a phob peth arall a ddynodir wrth yr enwau hyn allan o'r cyfrif. Hen wr patriarchaidd yr olwg a chrefyddol ei ysbryd, a breswyliai yn ystod ei ym- daith ar y ddaear yn Dowlais, oedd Tomos Dafydd ; a Glanyrafon, tyddyn bychan ar gyffiniau siroedd Caerfyrddin a Oheredigion, ydoedd ei artref cyn symud o hono i gyfaneddu yn y gweitnfaoedd. Efe ydoedd tad Gol- ygydd y DiWYGrwR, a hyny yw ein rheswm penaf dros hawlio i'r golofn goffadwriaethol hon gae^ ymddangos yn ddiffael ar dudalenau blaenaf y DrwYGiWR. Adwaenem yr hen bererin yn dda. Yr oedd ein hedmygedd a'n hanwyldeb o hono yn fawr iawn, a chyfrifwn hi yn un o bleserau penaf ein bywyd i gael gosod ger bron darllenwyr deallus y DiWYGiwit, brif linellau ei gymeriad, gan gredu fod ystyried ffyrdd y perffaith, ac edrych ar lwybrau yr uniawn» yn addysgiadol iawn i'r genedlaeth sydd yn bresenol yn gofalu am arch Duw. GanwydTomos Dafyddlon. 26ain, 1796, yn y Gellifach—tyddynbychan rhyw ddwy filltir o Lanbedr-pont-Stephan, gerllaw y ffordd sydd yn ar- wain oddiyno i Lanymddyfri. Crydd oedd ei dad wrtb ei alwedigaeth. Gweithiai.ei grefft yn ddiwyd, yn ogystal ag amaethu y tyddyn. Yr oedd yn rhaid iddo gydio y ddwy alwedigaeth, a bod* yn ofalus a ffyddlon yn nghyflawniad dyledswyddau y naill a'r llali, cyn y gallasai enill bywiol- iaeth i'r teulu. Nid oedd cryddiaeth yn alwedigaeth mor enillfawr y pryd hwnw ag ydyw yn bresenol, ac yr oedd y tyddyn yn lled fychan a diffrwyth, fel, 08 am " ddarbod dros yr eiddo," yr oedd yn ofynol iddo wneuthur y goreu o'r ddwy, Dysgodd Tomos yr un alwedigaeth, a chyrhaeddodd yr un perffeithrwydd ynddi â'i dad, a hyny pan yn dra ieuanc. Gallwn dyb- ied fod crefydd ymarferol yn meddu cryn ddylanwad ar egwyddorion a bywyd y teulu yn y cyfnod hwn, canys yr ydym yn cael Tomos Dafydd, pan yn Uanc ieuano a thyner, yn ymwrthod â phleserau gwageddus ac arferion ynfyd ieuenctyd y gymydogaeth, ac yn oerddejî amryw filltiroedd i Esgerdawe bob Sabbath, er cael mwynhau gweinidogaeth y gair ac 29