Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. MAI, 1874. toẁl Ifemwc. GAN Y PARCH. R. MORGAN, ST. CLEARS. " Portha fy wyn.-'—Ioan xxi. 15. Y mae y geiriau uchod yn rhau ô'r ymddyddan a gymerodd le rhwng Simon Pedr a Christ ar ol ciniaw, ar ei ymddangosiad i'w ddysgyblion ar ol ei adgyfodiad oddiwrth y meirw. Y mae Crist yn yr ymddyddan hwn yn apelio at Pedr, i gael gwybod ganddo pa faint o gariad oedd yn ei galon ato ef. Yr oedd Simon wedi gwneud proffes ac addewid o wrhydri mawr dros Grist cyn iddo farw. Yr oedd wedi dyweyd y buasai ef yn fwy ffyddlon iddo yn ei dywydd garw nag un o'r dysgyblion ereill, gan ddangos trwy hyn hunan-hyder a balchder pechadurus. Gofyna Iesu iddo dair gwaith yn yr ymddyddan hwn, " A wyt ti yn fy ngharu I? " yn cyfateb i'r tair gwaith y gwadwyd ef ganddo, a chysyllta ddyledswydd bwysig â'r gofyniad bob tro—"Portha fy wyn," "Bugeilia fy nefaid," " Portha fy nefaid ;" yr hyn sydd yn awgrymu fod cariad at Grist yn gymhwysder hanfodol at iawn gyffawni y dyledswyddau a orchymynir ganddo. Defnyddir y testyn yn arwyddair i ddangos perthynas yr eglwys ag addysg grefyddol y genedl ieuanc. Dichon na fu yn un oes o'r byd gymaint o sôn ac ymdrech ag sydd yn awr yn nghylch addysgu'r werin. Bu adeg hir yn hanes y byd, pan yr ystyrid fod y werin i fod yn ddiaddysg; ac yn wir, tybid ei bod yn berygl- us i roi addysg iddynt, ac nad oeddent yn dda i ddim ond i weini ar bobl gyfoethog. Y mae yn rhyfedd i'r gwledydd Cristionogol i esgeuluso y gorchymyn syml ac eglur hwn o eiddo Crist am gyhyd o amser. Un o nodweddion gwahaniaethol Crist fel dysgawdwr, oedd ei ofal mawr i drwytho doebarthiadau iselaf cymdeithas yn egwyddorion ei deyrnas ef. " A'r tlodion yn cael pregethu yr efengyl iddynt." I. TOD. DUW 0 DAN BOB G0RU0HWYLIAETH WEDI TALU SYLW I BLANT, A GWNEUD DARrABIAETH NEILLDUOL AR EU CYFEE. ysigi ei sawdl ef." Gwir fod " dy had di" yn golygu yn benaf gyfeiriad at Gristf ond golyga hefyd ei had naturiol hi, fel rhai yn cyd- 17