Skip to main content

Y DIWYGrlWR. EäGFYrTT873. ■ * GAN YPARCH. T. P. EVANS, CEINEWYDD. [Ceisiwyd gan ein hanwyl gyfaill, Mr. Evans, ddarllen Papyr ar y pwnc uchod yn Nghy- nadledd y Gymanfa Dde-Örllewinòl, yr hon a gynaliwyd yn Nghydweli yr haf diweddaf. Bwriadasai yntau wneud hyny, ondlluddiw}-d ef gan afiechyd teuîuaidd i fod yn bresenol. Mae yn dda genym argraffu y Byrdraith a barotoasai, gan gredu fod y pwnc yn galw am sylw néillduoly blynyddoedd hyn.—Gol.] Ychydiö iawn o'r celfyddydau, mewn can lleied o amser, sydd wedi llwyddo i ddringo i safle mor uchel mewn bri a dylanwad â'r argraff-wasg. Hyd tua chanol y 15fed canrif, yr oedd y gelfyddyd yn hollol anadna- byddus yn yr egwyddor ar ba un y dygir hi yn mlaen yn bresenol. Nid yw wedi ei benderfynu yn hollol yn mha le a than ba amgylchiadau y darganfyddwyd y gallu mawr yma. Cyduna y rhan fwyaf iddo gael ei fodolaeth yn rhywle yn Germany, tua y flwyddyn 1440. Bernir ër hyny fod y gwaith o argraffu yn cael ei gario yn ralaen ganrifoedd cyn hyny, ond mai tua yr adeg uchod y darganfyddwyd y posiblrwydd o ddefnyddio argraffnodau symudol {moveahle type), yr hyn roddodd gychwyniad newydd fr gelfyddyd, ac a osododd ei gwyneb yn uniongyrchol at y safle uchel ar ba un y saif yn bresenol. Dygwyd hi drosodd i'r wlad bon yn y flwyddyn 1472, gan un o'r enw William Caxton, yr hwn a ymsefydlodd yn Llundain. Wedi ei dygiad drosodd i Lloegr, y mae yn ymddangos mai ychydigiawn o gynydd a wnaeth y gelfyddyd am ryw gant a haner o flynyddau. Fodd byuag, yn y flwyddyn 1622, anturiodd un o'r enw Nathaniel Butter gy- hoeddi papyr newydd, yn dwyn yr enw Weehly News. Bu y Weehly News ar y maes am ddeunaw mlynedd. Ar ei farwolaeth ef cododd pump neu chwech yn ei le. Yr oedd un neu ddau o'r rhai hyn yn dyfod allan yn fynychach nag unwaith yn yr wythnos. Tuadechreu y 18 canrif y dangos- odd y papyr dyddiol cyntaf ei wyneb ; ond erbyn heddyw y mae y fyddin Jfawr hon yn rhifo ei miloedd, a'i dylanwad braidd yn anorchfygol ar bob gradd a sefyîifa. Bernir fod y wasg Seisnig yn bwrw allan bob blwy4djn rhywbeth fel 40 miliwn o gyhoeddiadau sydd a thuedd uniongyrchol ynddynt i lygru ac anfoesoli cymdeithas ! Y mae yn wir ei bod hefyd yn bwrw allaji filoedd o gyhoeddiadau crefyddol a da, ond nid yw y nifer yn ddim yn ymyl y drwg. Y mae y wasg yn union fel y tafod, yr hwn a gynrychiola, yn gallu bendithio Duw ar y naill law, ac ar y llaw arall yn melldithio dynion, y rhai a wnaethwyd âr lun Duw. Y mao y ffynon hon yn rhoddi aÚan ddwfr melus a chwerw o'r un llygad. 45