Skip to main content

Y DIWYGIWE. TAGHWEDD, 1873. YN ESIAMPL I BEEGETHWYE EEETLL. (Anerchiad y Llywydd, y Parch. J. Davies, Moriah, sir Benfro, yn nghyfarfod Undeb yr Annibynwyr Cymreig, a gynaliwyd yn Nghaernarfon, Medi, 1873.) "A phregethu efengyl y deyrnas," Mat. iv. 23; ix. 35, " Ac yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd," Mat. xxii. 16. Y mae siarad cyhoeddus wedi bod yn hen arferiad yn mysg pob cenedl— gwar ac anwar. Arferwyd hyny gan wladyddion, megys gan ein senedd- wyr ni; gan areithwyr proffesedig a dadleuwyr o flaen y frawdlys yn mysg yr hen genedloedd hanesyddol, Groeg a Ehufain, cystal ag yn ein gwlad ein hunain. Byddai athrawon yn yr hen ysgolion yn gorfod siarad llawer â'r myfyrwyr o herwydd prinder llyfrau, fel Aristotle yn ei ysgol fawr ef, yr hwn a rodiai yn mlaen ac yn ol yn y Lyceum yn Athen, gan slarad yn barhaus â'i luaws myfyrwyr, y rhai a alwyd o herwydd hyny yn amgylch- rodianwyr {peripatetics). Siaradwyr cyhoeddus hefyd cedd y proffwydiüuddewig. Byddai rhai o honynt flynyddau lawer, megys Hosea, yn siarad yn enw yr Arglwydd wrth eu cydwladwyr ; ac y mae gyda ninau grynodeb, ac nid ydy w ond crynodeb, o'r hyn a lefarasant wedi ei ysgrifenu ar gân.* Bu ysbryd proffwydoliaeth yn ddystaw yn mysg yr Iuddewon o amser Malachi hyd ddyddiau Ioan Fedyddiwr. Arosai yr Ysbryd Glan ar rai meddyliau yn y wlad yn y cyfamser, megys ar Simeon ac Anna y bro- ffwydes, i'r rhai y dadguddid trwy freuddwydion a gweledigaethau rai pethau a fyddent, a phethau cuddiedig oddiwrth ereill. Ond anfynych a rhanol y gwneid hyny. Aeth Ioan Fedyddiwr, offeiriad ieuanc, deg ar ugain oed, allan i blith y bobl yn ysbryd a nerth Elias, gan bregethu * At ddeall yr ysgrifau by-nafol hyn yn well, buasai yn dda i ni wybod jfc fwy nag y gwyddom heddyw pa le yr oedd un dernyn a ysgrifenent yn dybenu, a'r llall—y nesaf ato— yn dechreu. Yn hyny yr ydym yn anffodus o herw^'dd yr hen ddull o ysgrifenu y cyfan fel un gair, megys, Cristynpregethuefengylydeyrnas. Y mae y gwyr byny yn ganmoladwy ag a ddarfu wneuthur rhaniadau a phenodau ac adnodau o'r ysgrifau hyn. Er hyny, nid yw ond na'i „ ysgrîfeniadaú y proffwydi, fel y daethant'o dan'eu Uaw hwynt, ond nid.yn ysbrydoliaeth y cop'iwyr na rhanwyr vr ysgrifau, mwy nag yn ysbrydoliaeth neu gyẁiMeb argraffiadau y Beibl Cymreig, Er-hyny, nid ydym yn gwrthod y Beibl Cymreig o herwydd y g%allau h}-n. Ni wrthodwn chwaith y Beibl Hebreaidd o herwydd y gwallau ysgrifol neu argraffyddol a allant beythya iddo, na gwadu ei ysbrydoliaeth» • , • 41