Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. MEDI, 1873. írẅtertíj ìmra §afoL GAN Y PARCH. R. W. ROBERTS, YSTRADGYNLAIS. " Yr hwn a'i rhoddes ei hun yn bridwerth dros bawb, i'w dystiolaethu yn yr araseroedd priod.' Dyna eglurhad dwyfol ysbrydoliaeth ar aberth iawnol, a dyoddefiadau dirprwyol yr Arglwydd Iesu Grist. Dirprwywr oedd. Iepu Grist, yn gweithredu dros ac yn lle ereill. " Ni ddaeth Mab y dyn i'w wasanaethu, ond i wasanaethu." Y mae pob enw a roddir arno, pob tystiolaeth ddyry y gair am dano, a'i dystiolaethau yntau am dano ei hunan, yn dangos yr un peth. "I hwn y mae'r holl broffwydi yn dwyn tystiolaeth." Gelwir ef weithiau yn Ẅas, yn Angel, yn Gyfryngwr, yn Iawn, yn Aberth, yn Bridwerth, yn Eiriolwr; ac iddo gael ei anfon gan Dduw atom ni, iddo ddyoddefa raarw drosom ni, a'i fod yn eiriolger bron Duw ar ein rhan ni, ac yn ymddangos yn ngwydd Duw yn ein hachos ni. A beth yw gwas, ond gweithiwr i arall—angel, ond cenad at arall—cyf- ryngwr, ond canolwr rhwng dwyblaid—iawn, ond boddlonrwydd am feiau —aberth, ond dyhuddiant dros bechodau—pridwerth, ond gwerth er rhydd- had carcharorion. " A thithau, trwy waed dy amod y gollyngaist dy garcharorion." Dyna oedd stad dynolryw i gyd—" carcharorion " wedi eu " carcharu yn gyfiawn " am bechod, a'u profi yn euog gan ddeddf a chyf- iawnder. Ond dyraa lawn am y camwedd er boddlonrwydd cyfiawnder, a phridwerth dros y personau, fel y caffai yr holl gaethion ddod yn rhydd— "yn bridwerth dros bawb." Arian neu fywydau oedd gwerthbris y Groeg- iaid am ryddid y caethion. Dyma fywyd dros fywydau—un bywyd dros fywydau. " Yr hwn* a'i rhoddes ei hun." Ehyddhawyd dros bedair mil- iwn o gaethion America rai blynyddoedd yn ol; "tyrfa na ddichon neb ei rhifo,'' ar Galfaria—pawb—oddiwrth allu a chosb pechod, ac allan o gaethiwed a thrueni pechaduriaid i stad o bosiblrwydd am fywyd tra- gywyddol. FOD GAN BAWB, YN 0L TREFN DüW YN NgHRIST, GYSTAL SIAWNS à'u GILYDD AM F0D YN GADWEDIG. Tr un berthynas sydd rhwng pawl a DÌÎw wrth natur. " TJn Duw sydd," p'r hwn yr hanodd yr holl deulu dynol. Efe yẅTad pawb, a phawb yn perthyn mor agos iddo a'u gilydd, ac yntau yn ewyllysiô cystal iddynt oli * 33