Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWB. AW8T, 1873. GAN Y PAROH, T. DAVTES, LLANELLI. Nid oes dim yn fwy drygol na dysgu fod Gair a gweithredoedd Duw yn anghyson â'u gilydd; eto mae esbonwyr y Beibl ac esbonwyr natur W6di bod yn euog o hyny. Ond gan mai Duw ydyw Awdwr y Beibl a matur, a chan fod Duw bob amser yn gyson ag ef ei hun, mae yn rhaid fod y ddau yn gyson â'u gilydd. Mae Awdwr y ddau yn anffaeledig, ond mae esbonwyr y ddau yn ffaeledig iawn, ac yn syrthio yn ami i gamsyniadau dygn. 0 ganlyniad mae esboniadau ar y Beibl yn erbyn eu gilydd, ac esboniadau ar natur yn erbyn eu gilydd, ac esboniadau ar y Beibl a natur yn erbyn eu gilydd. Os nad yw duwinyddion yr un farn am arfaeth, Person y Cyfryngwr, iawn, a gwaith yr Ysbryd Glân, nid yw gwyddonwyr chwaith yr un farn am atyniad, goleuni, gwres, a thrydan; ^ felly er bod y ddau wreiddiol yn gyson â'u gilydd, mae yr esboniadau * arnynt yn aml yn wrthwynebol. Ni a ddylem fod yr un mor eiddigus dros wirionedd y Beibl a natur; a dylai y duwinydd a'r gwyddon fod yn ddau gyfaill; mae y ddau mewn swyddogaeth ddwyfol. Dylai y duwinydd ddysgu y gwyddon am " Dduw yn Nghrist," a'i adgofioyn aml mor barchus mae y Beibl yn cyfeirio at natur; a dylai y gwyddon wneud ei oreu drwy esbonio natur i gynorthwyo y duwinydd i ddeall y Beibl. Ond fel arall y mae, ysywaetü, yn rhy aml; mae y ddau weithiau fel dau fachgen drwg, yn tori ac yn dinystrio llyfrau eu gilydd. "Philosophi a gwag dwyll," meddai y duwinydd am ddysgeidiaeth buraf y gwyddon ; "Nid yw y Beibl ddim ond Apocrypha," meddai y gwyddon o'r tu arall. Ond wedi i'r ddau ddyfod i wybod mwy, gwelsant mai yn eu hesboniadau hwy, ac nid yn y Beibl na natur yr oedd y camsyniadau. Ẅrth y duwinyddion yr wyf yn deall esbonwyr y Beibl, ac wrth y gwyddonwyr yr wyf yn deall esbonwyr natur; a dealled y darllenydd wrth fy mod yn nodi rhai o'u camsyniadau fod eithriadau lawer y ddwy ochr. I. Camsyniadait Duwinyddion. 1. Am y ffurfafen. Dysiai yr henafiaid mai bwa anferthol o ryw ddef- nydd caled, tryloyw,Vr seí wedi eu sicrhau ynddo, oedd y fi&irfafen, a bod y cwblyn rhodellu "oddiamgylch y ddaear unwaith bob pedair awr ar s • 29