Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. GORPHENHAF, 1873. GAN Y PARCH. R. W. ROBERTS, YSTRADGYNLAIS. " A'i gael mewn dull fel dyn." Y mae pethau rhyfedd wedi dygwydd erioed yn y byd yma ; a Duw oedd awdwr y pethau rhyfeddaf, er ein bod ni yn synu mwy at bethau dynion. Dyna beth rhyfedd oedd tŵr Babel, ei sail ar y ddaear, a'i grib yn y nen. Gwnaeth Duw dyrau byw i rodio ar y ddaear, ac wedi iddynt orphen eu taith, mae yn eu cymeryd ato ei hun. Dyna beth rhyfedd oedd arch Noe, creadur mawr, a'i lonaid o bethau byw, yn rhodio ar wyneb y dyfroedd. Gwnaeth Duw greaduriaid byw i ymlwybro yn y dyfroedd, heb awydd arnynt weled tir sych byth. Dyna beth rhyfedd, dyn yn archio pontydd dros afonydd, yn dramwyfa dynion ac anifeiliaid. Gwnaeth Duw ì'r afon- ydd redeg drwy'r ddaear, fel y gallai dynion ac anifeiliaid fyw a marw ar eu cefnau. Dyna beth rhyfedd, dyn yn gwthio tunnel o dan wadnau y mynyddoedd, ac yn cipio miloedd o bobl mewn cerbydau drwyddynt gyda dwfr a thân. Ond yr olygfa ryfeddaf welodd byd erioed oedd " gweled yr hwn ni thybiodd yn drais i fod yn ogyfuwch â Duw, wedi cymeryd arno agweddgwas"—ffurf Duw mewn cyffelybiaeth dynion—"adelw'r Duw anweledig wedi ei gael mewn dull fel dyn." Yr un fath â dyn, yr un lun, a phryd, ac edrychiad, a gwisgiad, a cherddediad, ac yn ddarostyngedig i holl angenion a gwendidau dyn; " wedi ei wneuthur yn mhob peth yn gyffelyb i'w frodyr, ond ei fod heb bechod : yn ddihalog a didoledig oddi- wrth bechaduriaid." Fel y gwyddoch, yr oedd Duw fel brenin cyfìawn, wedi digio wrth ddyn am wrthryfel; ond dyma Fab y brenin wedi ymgymeryd at ferch y gwrthryfelwr, ac yn priodi ei natur, yn ei dwyn o flaen y brenin, ao yn enill ffafr y brenin i'r tylwyth i gyd. A phrin y gall un credadyn wed'yn edrych ar ddim, na meddwl am un peth, heb fod Iesu Grist yn ymrithio o'i flaen, ac yn dyfod i'w gof; oblegyd mae dwyfol ysbrydoliaeth wedi benthyca gogoniant natur i gyd i'w ddilladu ag enwau a theitlau erbyn dydd y briodas. Ond fel mae gwaetha'r modd, nid oes yr un o honynt yn ddigon iddo ymestyn ynddynt. Y maent fel dillad coryn am gawr. Edrychwn arno ynddynt am foment. Ai dydd ydyw ? Gododd yr haul ? í{ Haul cyfiawnder a gyfyd i chwi, a meddyginiaeth yn ei esgyll." Ddaliodd y nos di ? Gododd y sêr? "Seren Jacob, y seren fore eglur, y seren ddydd." Edrych ar dy gysgod; mae yn ddydd goleu, yn ganol dydd. "Golẅni'r byd ydwyt'fi; goleuni'r bywyd; y goleunijsy'n 25