Skip to main content

Y DIWYGIWE. EHEFIN, 1873. fr^% GAN Y PARCH, R. PEREINS, MAENCLOCHOG. "Ac allan ddyweáodd mae."—Luc ix. 49, 50. Ioan yr Efengylwr a lefarodd yr adnod flaenaf o eiriau'r testyn. Mab ydoedd i Zebedeus a Salome. Pysgotwr oedd wrth ei alwedigaeth gyda'i dad, ac yr oedd yn ddiwyd gyda'i alwedigaeth pan alwodd Iesu Grist arno i'w ganlyif ef; ond efe a ufyddhaodd i'r alwad yn y fan, ac a aeth ar ol yr Iesu. Mae Ioan y testyn yn galw'r Iesu yn Feistr. "0 Feistr," eb efe. Yn yr anerchiad yma yr oedd Ioan yn cydnabod uchafiaeth Iesu Grist—ei fod yn un ag awdurdod ganddo, ei fod yn ddysgawdwr ac yn athraw, ei fod yn un ag y mae parch ac anrhydedd yn ddyledus iddo, ac yn un ag y mae ofn yn deilwng iddo. Mae Ioan yn dyweyd yma ei fod ef a'i frodyr wedi gweled rhyw un, yn enw Iesu Grist, yn bwrw allan gythreuliaid, a'u bod wedi gwahardd iddo, &c. Oddiwrth y geiriau, sylwaf yn— I. Y gwaith a nodir yma, sef bwrw allan gythreuliaid yn enw Orist. Mae hyn yn cynwys 1. Fod cythreuliaid yn bod. Nis gallesid bwrw allan gythreuliaid oni bai fod cythreuliaid mewn bod. Cythreuliaid yw yr enw cyfíredin a roddir ar yr angelion syrthiedig mewn ffordd o wahaniaeth oddiwrth y diafol, yr hwn yw eu penaeth. Unwaith y mae y cyfìeithwyr yn rhoddi yr enw cythraul i'r diafol, sef yn Dad. ii. 10, " Wele y cythraul a fwrw rai o honoch chwi i garchar." Y gair diafol a ddylai fod yno, ac nid y gair cythraul. JDiaboîos yw y gair Groeg yno. Gelwir y diafol hefyd yn Beelzebub, penaeth y cythreuliaid. Ystyr y gair hwn yw duw aflendid, a duw eilunaddoliaeth. Ystyr y gair cythraul yw gwrthwynebwr a dinystr- iwr. Creaduriaid rhesymol a deallgar yw y cythreuliaid. Gelwir hwynt, "Yrangelion y rhai ni chadwasant eu dechreuad, eithr a adawsant eu trigfa eu hun." A'r "angeìion a bechasant." Mae yn wir fod rhai yn dyweyd mai rhyw fath o ddoluriau, a chlefydau, ac auhwylderau oedd y 21