Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. HYDREF, 1872. GAN YjPARCH, W. THOMAS, WHITLAND. Y MAE yn rhaid i bob dyn ystyriol gyfaddef fod y grefydd Gristionogol yn rhoddi nodwedd urddasol, lywodraethol, a gorchymynol i ddynoliaeth. Effeithia natur, cymdeithas, masnach, gwyddor, a- chelfyddyd arnom, ond nid mor urddasol a nodweddol a Christionogaeth. Y mae nodweddau, natur, cymdeithas, masnach, gwyddor, a chelfyddyd yn ymgolli yn y nod- wedd fawreddog hon, sef Cristionogion. Diflanant yn ddisymwth fel goleuni y ser o flaen goleuni dysglaer yr haul, brenin y dydd. Ond er gogoneddused y nodwedd hon mewn natur a rhagorfreintiau, yr ydym oll yn agored i beryglon, i raddau cymharol, mwy neu lai. Dywed Paul wrth ysgrifenu at y Corinthiaid, ymadroddion arwyddol o sefyllfa annymunol cymdeithas yn yr oes apostolaidd, "Yn mheryglon llifddyfroedd, yn mheryglon lladron, yn mheryglon gan fy nghenedl fy hun, yn mheryglon gan y Cenedloedd, yn mheryglön yn y ddinas, yn mheryglon yn yr anial- wch, yn mheryglon ar y môr, yn mheryglon yn mhlith brodyr gau." " A phaham yr ydym ninau mewn perygl bob awr." Nid yw ein hoes freintfawr ni, mwy na'r oes apostolaidd, uwchlaw cyrhaedd ffynonellau a ffrydiau peryglon o amryw fathau. Perthyn i'r naill oes a'r Uall ei pheryglon arbenig ei hun. Y mae tri dosbarth gwahanol o Gristionogion yn ein gwlad yn awr. Y blaenaf yw y rhai enwol (nominal), y rhai a elwir felly o herwydd eu bod yn enedigol ac wedi eu dwyn i fyny mewn gwlad lle mae enw'r Gwaredwr yn anwyl ac yn wybyddus. Nid oes un gradd o rinwedd yn hyn, gan nad yw yn ffrwyth dewisiad o du y bobl o gwbl. Yr ail yw y dosbarth sydd yn proffesu crefydd—wedi dewis a chymeryd iau crefydd gymdeithasol arnynt, aelodau yr eglwys fel y mae hi yn weledig i ddynion. Y mae gradd o wahaniaeth rhwng y dosbarth hwn a'r blaenaf mewn ymarferiad a bywyd. Y trydydd yw y dosbarth sydd yn credu a'r galon i gyfiawnder, yn cyffesu a'r genau i iachawdwriaeth, ac yn byw crefydd gyda chysondeb boddhaol i Dduw. Proffesa y dosbarth cyntaf amryw bethau, ond yn eu ffordd eu hunain. Proffesa yr ail yn ffordd Duw ei hun, ond heb hanfodion proffes sylweddol. Ymddangosant yn gelfyddydol dda yn gyhoeddus, er nad yw y • 37