Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. MAI, 1872. íeilltowlimt gr <íte* GAN Y PARCH. D. LEWIS, LLANELLI. Tr ydym yn byw mewn dyddiau rhyfedd, yn un o'r cyfnodau mwyaf pwysig a chyffrous yn hanes amser. Gwyddom fod tuedd yn mhob oes i chwyddo ei phwysigrwydd ei hun, a gwneud camgymeriadau dybryd mewn canlyniad i hyny. Ond, ac ymdreehu cadw hyn mewn cof, dywedwn, efallai na bu adeg erioed yn hanes y byd, pryd y darfu i ddygwyddiadau mwy ynddynt eu hunain ac yn eu canlyniadau gymeryd lle, na dygwyddiadau y deg neu yr ugain mlynedd diweddaf. Mae dygwyddiadau yn cymeryd lle yn awr braidd yn wythnosol, ì'e, dyddioî, ag a fuasent haner can mlynedd yn ol yn taro yr holl fyd gwareiddiedig â syndod dwfn. Ond y mae eu hamledd yn peri i ni golli ein golwg ar eu mawredd. Y maent mor lluosog fel nas gallwn gael hamdden i sylweddoli eu pwysigrwydd. Gwelir gorseddau yn cael eu dadymcbwelyd, coronauyn syrthio, prif deyrnasoedd y byd yn cael eu sigloi'w sylfeini, ac ymherawdwyr balch yn caeî eu daros- twng i'r llwch. Y mae y deng mlynedd diweddaf wedi dwyn oddiamgylch effeithiau a ystyrasid ugain mlynedd yn ol yn eithafion ynfydrwydd mewn unrhyw ddyn i'w dychymygu. Mae pethau mawr yn cael eu gwneud; cadwn ninau ein llygaid yn agored i ganfod llaw Duwyn y dygwyddiadau pwysig hyn. Mae rhagluniaeth yn codi dynion cymhwys i sylwi ar, a gwylied yr hyn sydd yn cymeryd lle. Mae y ddaear yn troi, ond gan ein bod ni yn troi gyda hi, nid ydym bob amser yn ymwybodol o'i throgylch. Felly y mae y rhan ymarferol mae y mwyafrifo ddynion yn ei gymerydyn nygiad oddiamgyìch y dygwyddiadau mawrion hyn mewn rhagluniaeth yn eu hanghymhwyso í ganfod eu gwir gyfeiriad; ond y mae ychydig o ddynion wedi eu cymhwyso gan natur, gan addysg, a chan ymarferiad, i sylwi ar yr hyn sydd yn dygwydd; maent fel gwyliedyddion ar ben y twr, jrn gwylied yr hyn sydd yn cymeryd Ue o'ucylch. Y mae yn ddyledswydd ar y gwyìiedyddion hyn i hysbysu yr hyn a welant i ereill. Nid oes gan neb hawl i gadw eu gwybodaeth a'u hargyhoeddiadau yn gyfangwbl iddynt eu hunain. Mýneged y gwyliedydd yr hyn a welo. Ymdrechwn yn y llinellau canlynol osod ger bron y darllenydd neillduol- ion yr oes fel y maent yn ymddangos i ni. Yr ydym yn mhell o honi an- ffaeledigrwydd; gall fod llawer neu yr oll o'r hyn a ddywedwn yn anghywir, 17