Skip to main content

Y DIWYGIWR. MAWRTH, 1872. ílenlp jrfo ®HÌr g §p. GAN Y PARCH. W. JANSEN DAYIES, CASNEWYDD-AR-WYSG. Y Pi/ENTYN! Mor swynol y w yr enw ! Y fath adfyfyrdodau gyfyd wrth swn aceniad y gair ! Tarawa dant tyner, anwyl yn y fynwes, a gwefreiddia yn mhob calon! Dyma lawenydd y fam, a gobaith y tad—yr adeilad dys- glaer, pur, lle trig gorfoledd dwy galon hoff. Dyma archdeyrn bách car- iad, darlun o natur, y duw teuluaidd, na fedr yr un delwdorwr ei chwil- friwio—y rhosyn a'i ddail melusaf eto'n blygedig. Plant ydynt fardd- oniaeth y byd, blodau ffres, prydferth ein calonau a'n cartrefi, dewiniaid bychain gyda'u swyn naturiol yn arddangos yr hyn sydd yn lloni ac yn cy- foethogi pawb, ac yn cydwastadu gwahanol ddosbarthiadau cymdeithas. Peiriant tlws yn llawn dyddordeb, ac yn llawn gallu. Gwisg ei ddiniweid- rwydd a'i brydferthwch ef â dylanwad mawr presenol, ond y mae ynddo alluoedd cuddiedig yn y galon, y rhai pan eu dadblygir yn eu holl angerdd- oldeb dynol, fyddant o anfeidrol bwys iddo'i hun, ac i'r byd. Yn awr, nid yw ond y fesen, o'r hon y dysgwyliwn y dderwen, yn gyfoethog o frigau tewion, lle y nytha yr adar fychain a mawrion; yn awr, nid yw ond y tarddiad, y ffynonell, o'r hon y dysgwyliwn yr afon dywysogaidd, a gluda ar ei mynwes y llongau trwmlwythog; yu awr, nid yw ond y boreu gwlithog, yn ganlynol i'r hwn y dysgwyliwny diwrnodbraf i gasglu mewn y cynauaf auraidd. Photograph bychan ydyw yn awr o'r dyn wedi tyfu i'w lawn faint. Y mae yn ddirgelwch i ni a wna y fesen sydd yn awr yn oael ei chwythu gan y gwyntoedd chwareus i agen yn y clogwyn garw, falurio i lwch ar ei gwely caled, neu ynte a wreiddia hi, a thyfu fyny, ao yn mhen oesoedd a ddaw yn dderwen freninol i addurno ael y mynydd, neu i ffurfìo rhan o long ardderchog sydd i aradru tonau^r mor, neu i fod yn ddefnydd nenfwd i balas breninol. Y mae ýn ddi«j|lwch i ni a fydd i'r gronyn ŷd sydd yn awr yn cael ei gludo dan aden yr aderyn syrthio i'r dyfnder dilwybr, ac yno drengu yn nghanol y tonau anesmwyth, neu ynte a gludir ef i ryw wlad bellenig, yno i dyfu fyny i orchuddio darnau mawr- ion o'r ddaear a chynauaf anrhydeddus; ao y mae yn ddirgelwch i ni a fydd i ddail yr allt a syrthiant yr Hydref wrth ein traed, orphwys a phydru yn nghanol ysbwrial y canrîfoedd, neu ynte a drysorir hwy yn ddwfn am oesaa daearegol yn mherfeddion y ddaear, nes iddynt ymgaregu yn lo i wresogi a chysuro cartrefì cenedlaethau sydd eto heb eu geni; felly y mae yn ddirgel-