Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. IONAWR, 1872. Papyr a ddarllenwyd gan y Parch. J. LEWlS, JTenllan, yn Nghyfarfod yr " Uhdeb Cynulleidfaol" yn Abertawe. Yr ydwyf, ar gais y pwyllgor, yn amcanu cynyg i ystyriaeth y cyfarfod ychydig awgrymiadau ar y priodoldeb o ffurfio cyfarfod, neu gorfforiaeth {organization) i'r dyben i gael cyfleusdra i ymddyddan ac ymgynghori yn nghylch y pethau ag sydd yn dal perthynas gyffredinol a'r eglwysi Cyn- ulleidfaol yn Nghymru ; a hwylusu cydweithrediad yn eu cylch. Ni olygir cyfleu unrhyw gynllun ger eich bron. Bydd ffurfiad yr Undeb i gael ei adael i ddoethineb y cyfarfod yn gwbl. Cydunai y pwyllgor a'r ysgrifenydd yn eu golygiadau yn nghylch yr hyn fyddai yn briodol i alw eich sylw ato y boreu hwn ; ymdrechir ymgadw o fewn y terfynau. Amcan y sylwadau a ganlyn yw arwain eich ystyriaeth bwyllog a difrifol at y pwnc. Dy wedir hyn ar y dechreu fel na byddo dysgwyliad yn ymgodi am. gynllun o undeb i roddi barn arno. Byddai hyny yn myned dros y terfyn- au a nodasom i ni ein hunain. Hyderir y bydd i bawb ddyweyd eu meddyliau yn rhydd a charedig ar y meddylddrychau a ddygir gerbron. Os bydd iddynt gael ffafr yn ngolwg y brodyr, bydded iddynt gael eu corffoli yn y ffurf a than yr enw y cydunir arnynt. Gan fod cylch fy my- fyrdodau yn gyfyng, yr ydwyf dan yr angenrheidrwydd o fod yn fyr. Golygir fod cyfarfod o'r fath a nodwyd yn angenrheidiol. Mae amgylch- iadau yr eglwysi, eu perthynas a'u gilydd, eu perthynas ag enwadau ereill, a'u perthynas a sefyllfa cymdeithas a'r wladwriaeth, yn galw yn uchel am dano. Dechreuwn gyda'r gwirionedd syml a diymwad, fod undeb yn.nerth. Canfyddir y gwirionedd hwn yn cael ei egluro yn mhob peth trwy y byd- ysawd—trwy anian, trwy gymdeithas—trwy bethau naturiol, moesol, ac ysbrydol—mewn cymdeithasau gwladol, llenorol, a moesol; ac nid yw cymdeithasau crefyddol yn eithriad. Gwir yw mai undeb ysbrydol yw bywyd yr undeb, neu gorfforiaeth cymdeithasol. Nid yw yr allanol o un gwerth heb yr undeb túfewnol. Peiriant heb ager fydd. Ond nid yw undeb cymdeithasol, neu gorfforiaeth, yn rhwystr i weithrediadau y bywyd