Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWE MEDI, 1871. Cynaliwyd y gymanfa uchod eleni yn Llanelli, Gorphenhaf 18 a'r 19. Yr oedd y pedair eglwys Annibynol wedi ymuno i wahodd y gymanfa a dwyn ei threuliau. Cynaliwyd cynadledd am 11 y dydd cyntaf, pan yr* oedd tua 70 o weinidogion yn bresenol. Y Parch. T. Davies, Llanelli, yn Uywyddu. Dechreuwyd gan y Parch. E. Jones, Crugybar. Etholwyd y Parchn. S. Evans, Hebron, a W. Thomas, Bwlchnewydd, yn ýsgrifen- yddion. Cynygiwyd gan y Parch. W. Thomas, Bwlehnewydd, ac eiliwyd gan y Parch. J. Jervis, Penygraig,— 1. Fod y gynadledd hon yn mawr gymeradwyo trefniadau y pwyllgor lleol, ac yn ddiolehgar iddynt am ddarparu cyfleusderau mor lluosog i ym- drin a materion perthynol i lwyddiant achos y Gwaredwr. Dygodd y Parch. B. Wilîiams, Canaan, achos Cyfarfodydd Hydrefol yr Undeb Cynulleidfaol (Hyd. 9, &c.,) yn Abertawe, gerbron. Cynygiwyd gan y Parch. S. Evans, Hebron, ac eiliwyd gan y Parch. E. Perkins, Maenclochog,— 2. Ein bod yn dymuno galw sylw eglwysi cylch y gymanfa at hyn, ac yn hyderu y cyfranant yn ol cais y cylch-lythyr a dderbyniasant at ddwyn y draul gysylltiedig a'r cyfarfodydd. Cyflwynodd y Parch. E. Jones, Crggybar, Mr. Jenkins, o Lundain, yr hwn oedd wedi bod allan yn Australia, i sylw y gynadledd, yr hwn a ddar- luniodd sefylifa yr ymfudwyr Cymreig mewn rhai manau yn y drefedig- aeth eang hono, gan nodi fod lluaws o honynt yn suddo yn eu ffydd a'u moesau. Cynygiwyd gan y Parch. W. Morgan, Caerfyrddin, ac eiliwyd gan y Parch. J. Davies, Cwmaman,— 3. Fod gofyniad i gael ei anfon o'r gynadledd hon at y Gymdeithas , Genadol Drefedigaethöl, er gwybod ar ba amodau yr anfonai allan ddyn ieuanc yn feddianol ar gymhwysderau i lafurio mewn rhan yn mysg y Cymry. ^ygwyd sefyllfa ẁresenol Cymdeithas y Gweddwon dan sylw gan Mr. Evan8, Lìanelli, mewn araeth wresog; a chanlynwyd ef gan y Parch. S. Evaos, Casnewydd, dirprwywr y gymdeithas, yr hwn a nododd yn fanwly cyfnewidiadau oeddid wedi wneud y flwyddyn hon er mantais gweddwon gweinidogion Gymru. Cynygiwy d gan y Parch. W. Morgan, Caerfyrddin, ac eiliwylgan y Parch. W. ÿhcÄas, Bwlchnewydd,— 33