Skip to main content

Y DIWYGIWR. AWST, 1871. GAN Y PARCH, W. THOMAS, WHITLAND. " Canys nid oes arnaf gywilydd o efengyl Crist, oblegyd gallu Duw yw hi er iachawdwriaeth. i bob un a'r sydd yn credu; i'r Iuddew yn gyntaf, ac hèfyd i'r Groegwr." Heb. i. 16. Dengys . hanesiaeth fod Rhufain yn feistres y byd mewn deddfwriaeth, masnach, athroniaeth, barddoniaeth, a dysgeidiaeth yn yr oes apostolaidd. Yno ac yn Groeg yr oedd pendefigion gwleidiaeth, masnach, celfyddyd, a gwyddor yn byw, yn dysgu, ac yn addysgu. Yr oedd Paul wedi talu ym- weliadau cenadol yn bersonol a llawer o ddinasoedd, trefydd, pentrefydd, á gwledydd pan ysgrifenodd y llythyr dysgedig hwn at eglwys Rhufain, ond nid oedd wedi bod unwaith yn Rhufain. Rhwystr o eiddo Ysbryd Duw oedd yr achos ac nid un oerfelgarwch at yr eglwys, nac oín y mawr- ion talentog a dysgedig oeddynt yn byw yn y ddinas. Yr oedd wedi pen- derfynu ymweled a hwy lawer gwaith yn ddifrifol, fel yr ymddengỳs yr ymadroddion a ganlyn:—u Gan ddeisyf a gawn rywfodd ryw amser bellach, rwydd hynt gydag ewyllys Duw i ddyfod atoch chwi. Canys yr wyf yn hiraethu am eich gweled, fel y gallwyf gyfranu i chwi ryw ddawn ysbrydol fel y'ch cadarnhaer. Eithr ni fynwn i chwi fod heb wybod, frodyr, i mi yn fynych arfaethu dyfod atoch, (ond fe'm lluddiwyd hyd yn hyn) fel y cawn ryw ffrwyth ynoch chwi hefyd megys ag yn y cenedloedd ereill." Gallasai rhai gasglu mewn byrbwylldra ac anwybodaeth, fod yr apostolyn amddifad o sel Gristionogol dros daenu ei grefydd; neu ynte ei fod yn barhaus yn teimlo mai gwaed Iuddewig oedd yn rhedeg trwy ei wythienau er ei droedigaeth broffesedig, a'i fod mewn canlyniad yn llawn rhagfarn at ár cenedloedd fél cynt; neu fod ofn arno syrthio i grafangau haiarnaidd beirniadaeth lem y dysgedigion oeddynt yn byw yn Rhufain. Gwna ym- drech i ragflaenu a gwrthbrofi y camgasgliadau uchod, yn nghyd a'r cam- annoethion hefyd, Felly, hyd y mae ynof íì, parod ydwyf i bregethu yt efengyl i chwithau hefyd, y rhai ydych yn Rhufain." Nid oedd at Paul 29