Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. GORPHENHAF, 187Í. fe pigrft ëmiû §tẁ pwjr? GAN Y PAROH. R. W. ROBERTS, YSTRADGYNLAIS. *' Yr ydym ni yn ei garu ef, am iddo ef yn gyntaf ein caru ni.M—1 Ioan iv. 19. Tmae cariad Vw adnabod yn ei waith,felpob gras arall. Edwyn Duw bob un sydd yn ei garu cystal a phob un sydd yn ei gashau—"Hwnw a adwaenir ganddo ef." Dy wedai Alexander Fawr fod ganddo ddau gyfaill, a bod un yn ei garu fel ag yr oedd ef yn Alexander, a'r llall yn ei garu fel ag yr oedd ef yn frenin; carai un ei berson, a'r llall ei roddion. Mae ambell Nathanael yn caru Duw, nid o herwydd ei roddion, a'i wobrau, a'i dorthau, ond o herwydd ei ragoriaethau gogoneddus, a'i fod y peth yw ; carai ef pe na byddai iddo wynfyd na nefoedd byth am wneud! Cariad at Dduw ydyw enaid crefydd bur—y gras mwyrf angenrheidiol. Pe meddem wybodaeth engyl, ffydd fedrai wneud pob gwyrth, a thosturi caredigjìynolryw i gyd, heb gariad ni byddem ddim. A phe gofynech i mi, bem vdyw cariad ? Fy ateb fyddai, " Ffrwyth yr Ysbryd yw cariad" —tân o'r nefoedd wedi ei jyneu ar allor y galon—cariad Duw wedi ei dy- wallt ar led yn y galon trwy yj; Ysbryd Glan; ac y mae yn seirianu llygad Duw ragor un gras arall fedd y Cristion, fel y maen gwerthfawr oedd yn nwyfroneg Aaron. N%8 gall fod gwir grefydi^ gan neb heb gariad, mwy nag y gall fod bywyd mewn corffheb enaid; cariad sydd yn syrthio mewn serch atDduw, yn mynu Ue iddo yn y galon, ac yn cylymu serch y galon wrtho yn annatodol. "Pwy a'n gwahana ni oddiwrth gariad Crist?" "Cariad byth ni chwymp ymaith." Pery cariad yn ddelight hyfryd yn mynwes y carwr at wrth- ddrych ei serch byth bythoedd! Ni wehr adeg byth pryd na byddo cariad—paid grasau ereill a bod efallai, yn enwedig ffydd a gobaith. Leasehold sydd genym arnynt hwy, ond mae cariad ynfreehold—pery byth. Y mae coron dragywyddol ar ben cariad— bud aniarwol—oes hir—erys yn gwmni i ni yn y nefoedd byth. Mae cariad uwchlaw pob gras arall, fel mae brenin ar ei orsedd yn uwch na'i ddeiliaid—yn fwy dewisol, yn uwch mewn awdurdod, ac yn meddu mwy dylanwad; haulyn myeg mân*blanedau ydyw. Mae ffydd yn ras rhagorol, ya gw^ithio llawer, ond trwy gariad i gyd. Unodd ni â Christ, ac mae yn 25