Skip to main content

Y DIWYGIWR. I, 1871. Cgferíaìrgìiìr W^pxmL Luc xxiv. 53. GAN Y PARCH. W. WILLIAMS, ABERCARN. Hwn oedd y pwnc i bregethu arno yn Nghyfarfod Chwarterol Mynwy, yr hwn a gynaliwyd yn New Inn, Rhag. 13 a 14, 1870; ac yn ol dymuniad y brodyr, wele fi yu anfon sylwedd y Bregeth i'r Diwygiwr. Gwel Diwygiwh Ionawr, 187 L—W. W. Y mae dwy weithred ryfeddol yn cael eu nodi yn yr adnodau o flaen y testyn. Y gyntaf yw yr hyn a wnaeth yr Iesu i'w ddysgyblion, a'r olaf yw yr hyn a wnaeth y dysgyblion i Grist. Yr hyn a wnaeth yr Iesù'i'w ddysgyblion, " Ac efe a'u dug hwynt allan hyd yn Bethania." Yr oedd efe a'i ddysgyblion wedi bod yno lawer tro cyn hyn. Teimlent yn gartrefol yn Bethania, a hoffent y lle am fpd yno deulu a garent,—" A hoff oedd gan yr Iesu Martha, a'i chwaer, a Lazurus.'* Yno y cyflawnodd efe un o'i weithredoedd mwyaf nerthol, y wyrth hynod o godi Lazurus o'r bedd; ond dyma y tro diweddaf iddo ef a'i ddysgyblion fyned gyda eu gilydd yno. Yr oedd yn ymyl eu gadael a myned i'r nef, ond nid yw yn eu gadael heb arwydd eglur o'i gariad tuag atynt,—" Ac a gododd ei däwylaw ac a'u bendithiodd hwynt." Hon oedd y weithred olaf o'i fywyd; y peth diweddaf a wnaeth ar y ddaear oedd bendithio, ond nid hon oedd y leiaf o'i weith- redoedd; yr oedd yn weithred o drugaredd fawr. Yr oedd yr un ar ddeg yno; yr oedd Pedr yr hwn a'i gwadasai yno, ac yr oedd Thomas yr anghredadyn yno. Bendithiodd hwynt oll. Bu farw â bendith ar ei wefusau,—" A'r Iesu a ddywedodd, 0 Dad, maddeu iddynt." Efe a esgynodd i'r nefoedd pan yn bendithio ei ddysgyblion. Yr oedd wedi pwrcasu pob bendith iddynt trwy ei farwolaeth, " Ac fe a ddarfu, tra yr oedd efe yn eu bendithio hwynt, ymàdael o hono ef oddiwrthynt; ac efe a ddygwyd i fyny i'r nef." Dyna ef wedi ymadael am y tro diweddaf—ni welant ef mwy ar y ddaear ; "Efe a ddygwyd i fyny i'r nef," i'w orsedd, ac i ddwyn yn y blaen waith y prynedigaeth mewn ffurf arall. Yr oedd wedi gorphen ei waith ar y ddaear; am hyny, ymadawodd a hwynt— "aeth i barotoi lle iddynt." "Ac wedi iddynt ei addoli ef." Dyma weithred y dysgyblion i Grist. Yr oeddynt yn caru bod gydag ef—hoffent ei gymdeithas; ond y mae wedi myned allan o'u golwg hwynt—"A chwmwl a'i derbyniodd ef allan o'u-golwg hwynt." Nis gallant ei weled, éto y maent yn ei garu a'i addoli. W! Yr hwn er nas gwelsoch, yr ydych yn ei garu." Mae yn debyg iddynt gadw math o gwrdd gweddi wedi 17