Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWE. RHAGFYR, 1870. %Ifop êûû. Y Beibl yw yr unig safon anffaeledig wrth siaradneu ysgrifenu amnatur a chyfansoddiad Eglwys Crist. Nid ydym yn gallu deall traddodiad; a phe byddem yn gallu ei ddeall, ni fyddai o awdurdod anffaeledig ar y pwnc hwn. Ac os derbyniwn y Testament Newydd fel yr unig awdurdod anffaeledig, nis gallwn lai na synu fod dynion dysgedig a duwiol yn gwahaniaethu cymaint yn eu golygiadau am drefn a chyfansoddiad Eglwys Mab Duw. Ond mae y prif wahaniaethau yn cyfodi oddiar wahaniaeth barn am ddysgeidiaeth Gair Duw ar y pwnc. 1. Dywed rhai nad yw y Testament yn dysgu dim am gyfansoddiad a llywodraeth eglwys, ond fod y cwbl wedi ei adael i ddoethineb a phwyll ei haelodau mewn gwahanol oesau. Ond braidd y gallwn dderbyn y golygiad yma. Sefydlodd Iesu Grist Eglwys yr hon oedd i barhau hyd ddiwedd y byd; nis gall un gymdeithas fodoli heb reolau; o ganlyniad mae yn naturiol i ni feddwl i Fab Duw roddi rhyw fraslun, o leiaf, o reolau i'w Eglwys, yrhai sydd i barhau mewn grym dros holl oesau y ddaear. Heblaw hyny, rhoddodd Duw reolau manawl iawn am gyfansoddiad ei Eglwys dan yr Hen Destament, fel y buasem yn dysgwyl yn naturiol iddo wneud rhywbeth yn debyg dan y Testament Newydd. Ac os gedy dynion y Beibl unwaith ar y pwnc hwn, fel ar bynciau ereill, nis gwyddir pa le yr arosant. Gadael y Beibl a dilyn traddodiad roddodd fodolaeth i'r Babaeth. 2. Dywed ereill fod Iesu Grist wedi rhoddi cyfres o reolau caeth am natur a chyfansoddiad ei Eglwys, ac na ddylid gŵyro oddiwrthynt yn y radd leiaf. Ond byddai hyny yn groes i athrylith yr oruchwyliaeth ydym yn byw dani. Mae Lefiticus yn cynwys rheolau pendant a manwl i'r Iuddewon, ond llyfr o egwyddorion yw y Testament Newydd, ac yn cynwys addewid am yr Ysbryd Glan i'n cyfarwyddo i'w ddeall. Cynwysa y Testament Newydd ddadganiad o ysbrydolrwydd yr Eglwys, o'i haddol- iad cymdeithasol, a gwirfoddolrwydd cyfraniadau arianol ei haelodau, &c. Ond ni ddywedir ynddo pa fath addoldai ddylem godi, pa mor aml y dylem gydgyfarfod, pa faint a ddylem gyfranu, pa mor aml y dylem gy- Hiuno, pa beth ddylai fod trefn yr addoliad, &c, &c. 3. Dywed dosbarth arall fod y Testament Newydd yn cynwys braslin- ©Uiad o gyfaasoddiad yr Eglwys, ond fod y manylion wedi eu gadael i 45