Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. MEDI, 1870. $jrfrp0foẁ£i]í €xiü. GAN Y PARCH. D. G. MORGAN, STOCXTON-ON-TEES. " Yr hwn a wnaeth efe yn etifedd pob peth, trwy yr hwn hefyd y ^wnaeth efe y bydoedd: yr hwn, ac efe yn ddysgleirdeb ei ogoniant ef, ac yn wir lun ei berson ef, ac yn cynal pob peth trwy air ei nerth, wedi puro ein pechodau ni trwyddo ef ei hun, a eisteddodä arddeheu- law y Mawredd yn y goruwch leoedd."—Heb. i. 2, 3. Y mae yn amlwg fod rhanau helaeth o'r ysgrythyrau yn rhoddi ar ddeall, yn dangos yn eglur, ac yn rhoddi profìon diymwad o ddwyfoldeb Crist. Y mae hyny yn un o athrawiaethau sylfaenol y grefydd Gristionogol. Er fod yr athrawiaeth hon yn dangos ei hun yn eglur yn y testyn a'r cysyllt- iadau, eto y mae yma athrawiaeth arall ag sydd yn dangos ei hun yn llawn mor eglur—Cyfryngwriaeth Crist. I. Yn y greadigaeth—"Trwy yr hwn y gwnaeth efe y bydoedd." Meddylir yn gyffredin, ddichon, nad ydyw cyfryngwriaeth Crist yn cynwys nac yn cymeryd dim i fewn ond gwaith y prynedigaeth, ac nad oedd yr Iesu yn gwisgo agwedd gyfryngol hyd amser ei ymgnawdoliad—ei ym- ddangosiad ar y ddaear, &c. Gosodir ef allan fel Cyfryngwr yn ngwaith y cread—" trwy yr hwn hefyd y gwnaeth efe y bydoedd "—dyha gyfryng- wriaet\. Nid yn ei ymddangosiad a'i waith ar y ddaear y cawn ni y Mab gyntaf mewn agwedd swyddol yn cael ei osod allan yn israddol i'r Tad, ond hir amser cyn hyny, erioed ddichon, ond sicr y w er creadigaeth y byd- oedd. " Trwyddo ef y gwnaethpwyd pob peth, ac hebddo ef ni wnaeth- pwyd dim ar a wnaethpwyd." Nid oes dim wedi ei wneuthur, nac yn cael ei wneuthur, ond trwy y Mab. " Canys trwyddo ef y crewyd pob dim ar sydd yn y nefoedd, ac sydd ar y ddaear, yn weledig ac yn anwel- edig, pa un bynag ai thronau, ai arglwyddiaethau, ai tywysogaethau, ai meddianau; pob dim a grewyd trwyddo ef ac erddo ef." Y mae yr holl greadigaeth yn ei hamrywiol ranau wedi ei dwyn i fodolaeth trwy gyf- ryngwriaeth y Mab—"Trwyddo ef," &c. II. Mewn Ehagluniaeth—" Ac yn cyml" &c. Y mae y fath beth a rhagluniaeth i'w chael yn y byd, a hono yn cael ei dwyn yn mlaen trwy gyfryngwriaetb Crist. Dywed un dosbarth o ddynion nad oes gan Dduw yr un llaw yn nghynaliaeth y greadigaeth, yr aneirif greaduriaid, yr amryfal fydoedd, &c. Dywedant ei fod wedi eu creu oll 33