Skip to main content

Y DIWYGIWR. GORPHENHAF, 1870. (fêitt «SgMIIÌtflt p g |fcf- GAN Y PARCH. R. W. B.OBERTS, FENTREFOELAS. " Ond ni ewyllysiwn, frodyr, i chwi fod heb wybod am y rhai a hunasant, na thristaoch, megys ereil), y rhai nid oes ganddynt obaith." Un garw ydyw angeu am chwerwi cymdeithas a chreu tristwch yn myn- wesau dynion. Y mae pob ardal, a phob teulu, a phob eglwys, yn gorfod yfed ei gwpaneidiau chwerwon yn eu tro. Ac nid oes na rheswm, na Beibl, na phrofiad, na esiampl duwiolion, yn condemnio neb o'r sawl sydd yn methu peidio tristau am y gwaith a wna efe. Gogoniant dynoliaeth a pherfíeithrwydd crefydd ydyw fod y naill yn meddu teimladau da tuag at y llall—yn hoff ac anwyl o'u gilydd. Nid yw y neb fedr ddal yn ymyl erchwyn gwely cyfaill neu bertliynas heb wylo pan fyddo yn marw yn teilyngu cael ei alw yn ddyn ; dylai wylo am ei galedwch cs na fedr wylo deigryn ar fedd cyfaill a pherthynas. Cawn esiampl o fod natur berffaith yn methu peidio wylo uwchben cyfaill trancedig—" a'r Iesu a wylodd." Felly, gan fod wylo yn beth gweddus yn yr hwn ni wnaeth bechod, di- amheu nad ydyw yn anweddus ynom ninau. Eto, gall fod tristwch gor- modol, afresymol, ac anysgrythyrol. Y mae tristau mwy ar ol ein meirw nag am ein pechodau yn sicr o fod yn ormod tristwch—tristwch etyl waith a defnyddioldeb nes troi i rwgnach a thuchan yn erbyn Duw. Y mae ein testyn yn gwahardd tristwch, ond nid pob math—una thrist- aoch megys ereill, y rhai nid oes ganddynt obaith ;" dylai ein crefydd ddysgu rhywbeth i ni ragor na rhai diobaith. Dau ddosbarth diobaith sydd yn claddu eu meirw, sef ÿ Saduceaid a'r Paganiaid. Mae pob Saducead yn claddu y marw fel anifail, oblegyd " efe a wad fodolaeth ys- brydion, angelion, adgyfodiad y meirw, byd dyfodol, a'r farn a fydd." Ac ni ŵyr y Pagan ddim byd am yr adgyfodiad, ac felly nid oes gauddo ô*baith am weled y meirw yn íyw drachefn ; mae ef yn canu yn iach iddynt am byth ar lan y bedd. Ond gŵyr pob Cristion beth arall, ac mae yn credu a gobeithio peth arall; a dylai ddangos ei ffydd trwy ragoiiaeth tristwch ar eiddo y rhai nad ydynt yn credu ac nad oes ganddynt obaith. " Canys \ °s ydym yn credu farw Iesu a'i adgyfodi," daw y corff i fyny can sicred ag y daeth y Pen " yn flaenffrwyth y rhai a hunasant." Yr enw efengylaid^ osodir ar farw y saint. Nid yw marw i'r saint ond huno. Y desgrifiad mwyaf cymodol o angeu sant—««huno y mae. Ni bu farw yr eneth, eithr cysgu y mae. mY mÌe ein eyfaill Lazarus yn huno. A Dafydd, wedi iddo wasanaethu ei g^necíl-^ 25