Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

9 u Y DIWYGIWR. IONAWR, 1870. ABEAHAM. GAN Y PARCH. T. DAYIES, LLANDILO. Peth dymunol i chwaeth coethedig, peth hyfryd i deimlad crefyddol, peth adeiladol i ddeall goleuedig, peth dyddorol i serch ar bethau sydd uchod, a pheth o duedd ymarferoì dda iawn yw darllen bywgraffiadau y dynion a rodiasant gyda Duw. Ni a gawn grybwylliadau yn yr ysgrythyrau santaidd am ddynion drwg—dynion annuwiol, ond nid er eu mwyn eu hunain, ond oherwydd rhyw gysylltìádau oedd rhyngddynt a phobl yr Arglwydd; a chan fod y cyfryw gy&ylltiadau yn hanfodi, yr oedd yn angenrheidiol, er rhoddi hanes yr eglwys yn gyflawn, i gymysgu hanes dynion drwg a dynion da â'u gilydd—gelynion Duw a'i gyfeillion—plant y tywyllwch a phlant y goleuni. Ond er fod eu hanes wedi ei gymysgu ar ddalenau'r gair santaidd, nid ydynt hwy yn gymysgedig yn y byd tu draw i'r llen. Mae gagendor mawr wedi ei sicrhau rhyngddynt. Nid oes dramwyfa o'r naill bellder i'r pellder arall. Nid yn unig y mae hanes gwahanol gymeriadau yn gymysgedig yn ngair yr Arglwydd, ond y mae y drwg a'r da yn byw mor agos i'w güydd yn y byd, ac y mae y fath, a chynifer o gysylltiadau rhyngddynt yn y cyffredin, fel y gellir dywedyd am y duwiol yn aml, fod ei grefydd yn ymagor, yn tyfu, ac yn parhau yn y lle gwaethaf, ac o dan yr anfanteision mwyaf. Rhyw fyd cymysglyd iawn yw'r byd hwn. Mae y da a'r drwg yn yr un ardaloedd. Moses a Pharaoh yn yr un gymydogaeth; Josua ac Achan yn yr un gwersyll; Dafydd a Saul yn yr un fyddin ; y Llanciau a'r Babiloniaid ar yr un gwastadedd. Maent yn yr un teuluoedd; weithiau bydd y rhieni yn dduwiol a'r plant yn annuwiol. Yr oedd Hophni a Phinees yn nhy Eli; Absalom gyda Dafydd. Pryd arall bydd uu o'r plant yn dduwiol a'r ílall yn annuwiol. Yr oedd Cain ac Abel yn yr un ty; a Jacob ac Esau ar yr un aelwyd. Ond nid oes cymysgedd o'r fath tyny yn y byd tragywyddol. Mae y dynion da yn y nefoedd a'r dynion drwg yn uffern. Os ydym am fod gyda'r dynion da yn y byd arall, rhaid gwneud yr hyn sydd dda mewn bywyd. Mae yr Arglwydd^wedi dangos i «dyn pa beth sydd dda, a f>ha beth y mae efe yn geísio ,gan ddyn; gwneuthur barn, hoffi trugareŵd, a rhodio yn isel gyda Duw^ Cÿfeiria yifysgrythyr santaìdd ni at lawer o wroniaid yr heu oesnu; sonir llawer am danyut; ond saif Abrahai^yn nododi'g yn mhlith y iìu, a