Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. RHAGFYR, 1869. —_»----- Dda-RLLEîtwyr Hoff,—Mae yn naturiol iawn i ni, wrth anfon allan y rhifyn diweddaf o'r Diwygiwr am y flwyddyn 1869, gy- meryd cipolwg adolygiadol ar y prif bethau sydd wedi cymeryd lle yn ein mysg yn ystod y flwyddyn yn wladol ac eglwysig. Bu y flwyddyn hon, fel y blynyddoedd blaenorol, yn doreithiog o ofidiau i rai ac o lawenydd i ereill. Bu llawer o honom eleni yn gwlychu pridd y bedd â'n dagrau wrth gladdu perthynasau cu a eheraint anwyl, a gall pob un o honom ddywedyd, " Draw ar diroedd rhyw wlad arall Byddaf inau maes o law." Hir gofir y flwyddyn fel un y syrthiodd ynddi lawer o " Dywys- ogion yr Ënwad," ie, o rai a wnaethant "rymusder'' yn nerth eu Duw, ac a adawsant ar eu hol argraff dda ac annileadwy. Anwylir eu henwau gan flloedd a'u clywsant yn pregethu yr efengyl gyda nerth a melusder yn eu hareithfäu eu hunain ac yn ein cymanfaoedd. Ymddangosodd cofìantau i rai o honynt yn y Diwygiwr am y flwyddyn hon; a mawr hyderwn y trefna perthyn- asau, neu eglwysi, ein brodyr ereill sydd wedi blaenu, rywrai i ysgrifenu cofiantau iddynt, modd y byddo eu henwau a hanes eu llafur ar gael yn yr oesau a ddeuant; bydd yn dda genym osod y cyfryw gofiantau yn y Diwygiwr. Mae ein myfyrdodau ni pan yn ysgrifenu y llinellau yma yn rhedeg yn ol, megys o honynt eu hunain, at hen Olygydd parchu8 y DrwYGrwn, yr hwn a orphenodd ei yrfa ddaearol yn mis Mawrth diweddaf. Efe gychwynodd y Diwygiwr, ac a fu yn ei wylio a'i faethu gyda goffe tad am ddeng mlynedd ar ugain. Mae enw y Parch. David Eees a'r Diwygiwr yn anwahanadwy. Grwyddom 23