Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

T DIWYGIWR. ME33I, 1869. î. gfces, Storffi, EBRILL hed, 1869. GAN Y PARCH. J. DAYIES, GLANDWR. Anwyl Gyfeillion,—Tua 44 mlynedd yn ol y cyfarfu Mr. Rees a minau gyntaf a'n gilydd, ar lan Hafren, yn y Drefnewydd, dan enw myfyrwyr duwinyddol. Llawer o gyfnewidiadau sydd wedi cymeryd lle oddiar hyny hyd yn bresenol. Gwir bod Hafren yn llifo yn mlaen eto fel y pryd hwnw, ac fel 44 mlynedd cyn hyny, ac fel y gwnai 44 canrif cyn hyny. Y mae y bryniau a'r myn- yddoedd cylchynol yn awr agos yr un fath ag yr oeddynt y pryd hwnw—weithiau a'u penau yn wynion gan eira, a phrydiau ereill yn leision gan dyfìant. Nid oes yno yn awr ddynion ieuainc o'r un neges â ni yn rhodio a chyfeillachu ar ddolau prydferth yr afon hono. A chyfnewidiadau lawer a ddaethant dros y rhai oeddynt yno y pryd hwnw. Fel y lleill o'r myfyrwyr daeth cyfnewidiadau wedi yr amser hyny dros ein cyfaill yn angladd yr hwn y cyfarfuasom a'n gilydd heddyw mewn prudd-der. Y mwyaf o un ag a ddaeth drosto oedd yr un a fu ddydd Mercher diẃeddaf, pan y newidiodd ein byd ni am yr un ysbrydol ac anweledig. 0 fewn y 44 mlynedd diweddaf y mae liawer o'n cymdeithion wedi ymadael. O'r 25, rhai yn myned a rhai yn dyfod, ag y bum yn cymdeithasu â hwynt yn ystod pedair blynedd yr athrofa, y mae 14 wedi marw. Ein cyfaiil ag sydd o'n blaen yw y pedwerydd ar ddeg, ac y mae 17