Skip to main content

Y DIWYGIWR. AWST, 1869. -----♦----- MEHEFIN, 1869. GAN Y PARCH. M D. JONES, BALA. Gyfeillion hoff,—Mae pwyllgor eich Athrofa wedi fy ngwahodd i roi anerchiad i chwi eleni, ac yr wyf finau yn derbyn y gwa- hoddiad fel arwydd o ymddiried ynof fel cyfaill cywir yr athrofa, yr hyn a honaf fy mod. Yn wir, yr wyf yn eiddigus iawn drog gael fy ystyried yn gyfaill gwirioneddol ein holl athrofeydd. Yr wyf yn ymdrechu yn wastad gyfranu ychydig at drysorfa pob athrofa, ac yr wyf yn ceisio bod yn siriol o charedig i'n myfyrwyr o bob coleg pan y deuant oddiamgylch i gasglu. Edrychaf gyda chysegredigrwydd a phryder ar ein hoìl golegau, am mai hwy ydynt y brif feithrinfa i'r weinidogaeth efengylaidd yn ein mysg. Nid oes genyf y cydymdeimlad lleiaf â neb a ddiystyra ddyn ieu- anc, llawer llai â'r neb a wna'n fychan o bregethwr ieuanc. Mae dynion i'w cael a ddiystyrant wendid. Dywedodd Crist, "Ed- rychwch na ddirmygoch yr un o'r rhai bychain hyn," Mat. xviii. 10. Nid yn hawdd y gallwn ddiystyru y mawr ; ond y mae yn dueddol i ni ddirmygu'r bychan. Ffol iawn, fodd bynag, yw yr hwn a ddiystyra rai bychain, am fod llawer iawn mwy o rai bychain yn y byd na rhai mawrion. Bach yn wir yw pawb yn ei gychwyniad. Gellir rhoi troed ar y dderwen a'r gedrwydden gadarnaf yn yr eginyn, pan y mae hyny yn analluadwy ar ol iddi dyfu i'w nerth. Gwers y dylai pob Cristion ei dysgu yw, bod yn barchus iawn ei ymddygiad at bawb. Os na wnawn ryw lawer iawn o ddaioni yn y byd, mae angen i ni ymdrechu peidio a gwneud rhyw lawer iawn o ddrwg. Oddiar yr ystyriaeth yma j \5