Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYCrlWR. CHWEFROR, 1869. )xt%d1§ êaMfbítmú^ffl Am y ddiweddar Mrs. A. H. Jenhins, anwyl briod y Parch. E. C. Jenhins, Moriah, Rumni, a Saîem, Treìyn, Mynwy, a draddodwydyn nghapel Salem, Mai 26,1868. GAN Y PARCH. E. HTTGHES, PENMAIN. Ezeciei. xxiv. 15—17. Mae yma wr Duw, un o genadau Arglwydd y lluoedd, ag y cymerwyd dymuniant ei lygaid oddiwrtho megys â dyrnod. Mae genyf ychydig bethau i'w dyweyd am dani hi, ac ychydig bethau i'w dyweyd wrth ei hanwyl briod a'i phlant, a deimlasant yn ddwys o herwydd y ddyrnod a'i cymerodd hi ymaith oddiwrthynt. Nid pregeth angladdol yw fy mhregeth, ond pregeth goffadwr- iaethol. Yr oeddwn yn dygwydd bod yn rhy bell yn y Gogledd i allu bod yn bresenol yn ei hangladd. Gan mai pregeth goffad- wriaethol am yr anwyl Mrs. Jenkins ydyw y bregeth heno, ben- thyciaf y testyn i wüeud y sylwadau canlynol— I. GwRTHDDRYCH EIN COFFADWBIAETH FEL UN DEILWNG O FOD yn ddymuniant llygaid ei PHRiOD. Golyga yr ymadrodd " dy- muniant dy lygaid " wraig anwyl gan ei phriod, un yr ym- hyfrydai edrych arni, un yr oedd serch ei galon wedi ymgylymu am dani, ac un yr ymddedwyddai yn ei chymdeithas hi. Í3yna'r fath un oedd gwrthddrych ein coffadwriaeth i'w phriod. 1. Gwnawd hi felly gan Dduw fel Duw natur a rhagluniaeth. Addurnwyd ei pherson a phrydferthwch ymddangosiadoL Mae Awdwr natur, er ei fod wedi gosod prydferthwch ar ei holl weitlr- redoedd—" Godidowgrwydd a wnaeth efe," etô gwnaeth rai pethau yn fwy godidog nä'u gilydd. Mae rhagoriaeth yn rhai o