Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR IONAWR, 1869. ëíméb 1868 òfotỳtm 1869. GAN Y PARCH. R. W. ROBERTS, PENTREFOELAS. " Fel hyn, gan hyny, y dywed Arglwydd y lluoedd ; ystyriwch eich ffyrdd." Pan lefaro Duw, gwrandawed dyn. Llefarodd Duw unwaith, íe, ddwywaith, cyn i lawer dyn ddeall. Mae pob lleferydd o eiddo Duw yn arwydd o'i ewyllys da i ddyn, cyhyd ag y byddo ar y ddaear. " Llefarodd lawer gwaith, a Uawer modd, gynt wrth y tadau, trwy enau ei wasanaethwyr y proffwydi, gan fore godi, ac anfon;" ond " yn y dyddiau diweddaf hyn, lìefarodd wrthym ni yn ei Fab.'' Llefarodd lawer wrthym y llynedd, ac wele ef yn dechreu llefaru wrthym eto eleni. Y mae diwedd a dechreu blwyddyn yn adegau ag y dylem sefyll yn ystyriol uwch eu penau, a chlust ymwrandaw, i edrych beth a ddywed yr Arglwydd. Wel, " Fel hyn—ystyriwch eich ffyrdd." FOD Y FLWYDÜYN 1869 YN GALW ARNOM ADOLYGTJ 1868. Angharedigrwydd ynom fyddai anghofio 1868. Er iddiein gadael ac na ddaw hi byth yn ol, eto gwnaeth lawer tro cymwynasgar a ni. Cawsom 52 o Sabbatb.au ganddi, 12 o fisoedd, a 365 o ddyddiau, a'r cwbl yn gyfoethog o olud Duw. Ystyriwn hi, er mwyn ei rhoddion a'i Meistr. A pheidiwn a'i chladdu mewn ebargofiant ar ol iddi wasanaethu mor ffyddlon arnom. Daliai 1868 berthynas agos a ni oll. Yr oedd hi yn perthyn mor agos i bawb o honom a'n gilydd. Fy mlwyddyn I oedd hi, a dy fìwyddyn dithau hefyd. A gwnaeth lawer tro yr un fath a'u gilydd i ni. Cariodd ein cyrff yn nes o flwyddyn i'r bedd, " ty