Skip to main content

y diwygiwr. MEDI, 1868. DECHBEUAD A HANES LLYFRAIT Y TESTAMMT NEWYDD, GAN GAEBWYSON. Penod I. TJn o nodweddolau dymunolaf ein hoes ni yw yr awydd cynyddol sydd yn cymeryd lle i gael dealldwriaeth berffaith o bob peth ò'u dechreuad.' Mewn gwyddoniaeth, hanesiaeth, ac iaith ÿ mae yr ysbryd hwn o ym- chwiliad (yr hwn ni all orphwys hyd oni byddo wedi olrhain pob peth yn ol i'w hegwyddorion dechreuol, a chael allàn y modd y maent wedi cyrhaedd eu ffurf bresenol) wedi dwyn i oleúai lawer o wirioneddau gwèrthfawr ag oedd yn guddiedig oddiwrth ein tadau, ac fellçr ddwyn llawer o " ddoethineb guddiedig v o fewn ein cyrhaedd. Ond y mae rhai maesydd o ymofyniad efallai yn fwy bodd-haus gan nifer luosog o ddar- llenwyr y misolion Cymreig na'r un y gelwir eu sylw ato yn y nodiadau canlynol. Y mae cynwysiad Testament Newydd ein Harglwydd Iesu Grist yn ddigon adnabyddus i holl ddarllenwyr y misolìon Cymreig, eto y mae hanes yr ysgrifeniadau o ba rai ei cyfansoddir efallaì yn guddiedig i'r nifer luosocaf. Y ffaith yw, nid yw y pwnc hyd yn ddîweddar wedi tynu ond ychydig sylw; ac yn wir, yn aWr y mae y cyfryngau trwy ba rai y gallwn gael y wybodaeth am danynt i raddau helaeth yn mhell uwchlaw ein cyrhaedd. Yn yr ysgrif hon, fy aŵcan yw olrhain hanesiaeth allanol gwahanol lyfrau y Testament Newydd o'u cyfansoddiad hyd ein dyddiau ni. Nid oes genym ddim i'w wneud a chynwysiad y líyfrau hyn. Nid yw y ffeithiau y maent yn gofresu, yr athrawiaethau y maent yn ddysgu, a'r gweledigaethau a'r proffwydoliaethau y maent yn draethu, yn dyfod o fewn cylch ein hymchwiliadaeth bresenol. Yr ydytn yn cymeryd yn ganiataol fod yr ysgrifenwyr wedi cyflawni eu gorchwyl dan gyfarwyddyd ysbrydolraeth, ac nid ydym ỳn gweled angen egluro nac amddiffyn hyny yma. Ein hamcan yw cynyg at roddi rhyw fath o feddylddrych, mor bell ag y mae yn dal cysylltiad a'r Testajnent Newydd, pa fodd y mae y Beibl sydd genym ni yn awr wedi dyfod o, neu ei wneud o'r gwahanol lyfrau sydd yn ei gyfansoddi; trwy ba fodd y daeth i'w ffurf bresenol; a pha fodd y mae wedi cael ei gadw yn ddyogel am ddeunaw cant o flynyddoedd; am hyny, sylwn— 33