Skip to main content

223 HANESION BEODOEOL A THEAMOE. Mae yn anhawdd îawn gan y Ilywodraeth Doriaidd ymadael a'u swyddi; rhaid mai nid bychan yw y blae maentyn gael arnynt, canys arferant bob moddion, pob dichell, a phob ystryw o fewn eu cyrhaedd er eu galluogi i aros ynddynt cyhyd ag y gallant. Maent yn ymdrechgar iawn i orchfygu Mr. Gladstone ar bwnc yr Eglwys Wyddelig. Mae eu bywyd fel plaid yn dibyuu yn mron yn hollol ar y frwydr hono. Credant y bydd yr Ëtholiad Cyffredinol sydd gerllaw yn ffafriol iddynt, ac mewn gobaith mai felly y bydd, y mae Mr. Hardy yn ddi- weddar wedi gofyn am ganiatad î ddwyn i mewn fesur cofrestriadol, í'r dyben o fyrhau yr amser o gwblhau cofrestriad etholwyr. Wrth ei ddwyn i mewn, eglurodd Mr. Hardy nas gellid, fel y mae y gyfraith yn bresenol, gorphen y trefniadau rhagarwein- iol cyn diwedd Awst. Eglurodd Mr. Hardy yr holl drefniadau bwriadol, a dywedodd os byddai iddynt gael eu cario allan yn bri- odol, y gaílai y senedd newydd gyfarfod ar y seithfed o fis Rhagfyr, a dechreu ar ei goruchẃylion ar y 14eg. Y mae yr amser i gael ei arbed wrth adolygu y rhestrau drwy benodi n;fer ychwanegol o revisinçj barristers. Derbyniwyd y crybwylliad am yr amseriadau hyn mewn modd hynod o oeraidd a dîrmygus, gan gredu yn ddi- amheu y dylasai y llywoffraeth benodi amser cynarach, a gwybod mai gorfodaeth a'u tueddodd i apwyntio yr amser hwn. Ond ymddengys fod Mr. Gladstone wedi amlygu ei foddlonrwydd i drefniadau y llywodraeth, gan hyderu y bydd i'r amser maith a gymerasant sicrhau cywirdeb yn y cof- restriad. Y mae y frwydr fawr etholiadol yn agos- bau, ac yn ol arwyddion yr amserau, bydd yn un boeth iawn—yn un o'r rhai caletaf a Shoethafa ymladdwyd erioed yn y wlad on. Y mae y ddwy blaid yn ymbarotoi erbyn yr ymdrechfa yn mhob rhan o'r deyrnas, ac y mae tynged cwestiynau pwysig yn dibynu ar y canlyniad o honi. Y mae yr ystyriaeth fod tynged Eglwys Loegr yn dibynu ar dynged yr Eglwys Wyddelig wedi cynhyrfu Eglwyswyr Tori- aidd y wlad hon yn ddychrynllyd. Y mae y gwahanol bleidiau Eglwysig íel pe wedi cytuno i raddau helaeth i gladdu pob gwa- baniaeth sydd rhyngddynt, ac wedi pen- derfynu ymuno fel un gwr yn erbyn y gelyn cyffredin. Y maent eisoes yn gweithio, yn eydweithio, yn gweithio yn egniol, ac yn arfer eu lioll ddylanwad a mwy, i geisio denu yr etholwyr i gefno<;i eu hymgeiswyr. Maent wrthi ar en heithaf fel hyn yn Lloegr ac yn Nghymru hefyd. Mae en cynlluniau yn amrvw, a'u hystrywiau yn òMibendraw. Mae ganddynt oruchwylwyr o bob llun a lliw ar hyd ac ar led y wlad ; oll yn gweithio yn ffyddlon, ond yn hynod o ddys- taw, yn mhlith y dosbarth anwybodus o'r etholwyr, ac y maent yn ymrous iawn i greu rhagfarn yn erbyn Mr. Gladstone a'i bleidwyr. Mae y Rhyddfrydwyr hefyd yn gweithio yn egniol a chanmoladwy mewn manau. Nid amser i hepian a chysgu yw; pe byddai pob Rhyddfrydwr yn mhob sir trwy Gymru yn sefyll yn onest a ffyddlon dros ei egwyddorion, ac yn eu gweithio allan yn wrol, calonog, a diofn ; gan gadw ei olwg o hyd ar y nôd, a gwregysu ei Iwynau i redeg ei yrfa drwy amynedd i'r pen, byddai y fuddugoliaeth yn sicr o droi o du y Rhyddfrydwyr. Ysgrifènwyd a siaradwyd llawer ar bwnc y dreth eglwys. Dygwyd llawero wahanol fesurau i'r senedd o dro i dro gyda golwg ar gael Ilonydd gan y fath orthrwm cywilyddus. Dygodd Mr. Gladstone ysgrif i mewn er diddymu treth eglwys orfodol, ac y mae hono bellach fel y diwygiwyd hi gan bwyll- gor Ty yr Arglwyddi, o'r diwedd wedi ei chyhoeddi. Cynwysa yr ysgrif yn ei ffurf brcsenol ddeg o ddarnau byrion ac eglur. Yn y gyntaf, y mae yr egwyddor o dreth orfodol yn cael ei diddymu yn hollol ac am byth. Er ei bod yn cadw yr enw neu y ff'urf allanol o dreth, y mae yn colli ei holl allu gorfodol. Cynelir cyfarfodydd plwyfol fel o'r blaen ; a bydd ganddynt hawl i osod treth, i anfon personau o amgylch i'w chasglu, ond ni bydd ganddynt hawl i orfodi neb i'w tbalu. Ni oddefìr i neb a wrthoda ei thalu bleidleisio nac ymgymeryd mewn un modd â threuliad yr arian a godir trwy dreth wir- foddol. Gall perchenogìon tai a thiroedcf ei thalu, os dewisant, yn He eu tenantiaid; ond ni bydd ganddynt hawl i'w chodi drachefn oddiar eu tenantiaid. Ond er fod hyn yn tra rhagori ar yr hen drefn, nid ydym yn gweled fod cyflawn chwareuteg i bob dosbarth o bobl yn y drefn hon, canys gaü eglwyswyr Toriaidd gymeryd mantais arni i'w thalu yn lle cu tenantiaid, ac yna gallant ddefnyddio rhyẃ ddull anuniòngyr- chol i'w gorfodi i'w, thalu yn ol iddynt, seu í däial arnynt áni wrthod ei thaln. Mewn