Skip to main content

Y DIWYGIWE. GORPHENHAF, 1868. SEFYLLFA NEWIDIANOL CYMRU. (The Transitional State of Waîes.) GAN Y PARCH. J. DAYIES, OLANDWR. Darllenwyd y papyr canlynol yn nghynadledd y Gymanfa Orllêwinol, yn Hebron, Mai 26; a cheisiwyd" gan y gweinidogion oeddynt yn gynulledig yno ar iddo gael ei argraíFu. Gydag ychydig o sylw wrth edrych o'n hamgylch, ni a allwn weled fod cyfnewidiad yn dyfod dros Gymru, a bodein cenedl "yn marw beunydd." Meddwl anhyfryd yw hyn i ni. Nid hyfryd meddwl bod dyn yn marw; mwy anhyfryd bod teulu neu dylwyth yn diffodd; a mwy anhyfryd by th fod cenedl gyfan yn marw ymaith. Bu hyn i genedloedd ereill mewn oesoedd blaenorol fel y mae i rai cenedloedd yn yr oesau yma; megys cynfrodorion deheu a gogledd America. Y mae yn bosibl ddarfod i hyn fod i rai o genedloedd yr India a China. Hyn a fu i'r Amoriaid, yr Hethiaid, yr Hefiaid, a'r Jebushnd yn ngwlad Canaan. Hyn a fu i'r Ammoniaid, y Moabiaid, a'r Edomiaid, ac i ran o genedl Israel. Y mae yr Iuddewòn a'r Arabiaid yn parhau eu cenedligrwydd hyd heddyw, fel pe byddai bendith Abraham yn gorphwys arnynt. I. Ni a sylwn ar ystyr y cyfnewidiad a'r traws-symudiad sydd yn myned ýn mlaen arnom fel cenedl. Yr hyn a feddylir ydyw ein bod yn myned trosodd o fod yn Gymry i fod yn Seison. Ni newidiwn ein gwlad a'n preswylfa, ond gwawn ein cenedligrwydd. Yr ydym yn colli ein hiaith yn gyflym, ac a gollwn hefyd ranau ereill o nodau ein cenedl. Ymddengys fod yr amser yn prysuro pryd na chlywir yr iaith Gymreig yn Nghymru mwy na'r Gernywaeg yn Nghernyw, neu y Wyddelaeg yn rhanau o'r Iwer- ddon, na'r Gaelaeg yn rhanau o Ysgotland. Meddwl yw hwn ag nad ydyw i ni Gymry y dydd presenol yn feddwl pleserus mewn un modd. Y mae i genedl y Cymry ynddi ei hun ddefnyddiau a rheswm ei marw- olaeth, ac y mae y rhai hyn bellach yn cydgyfarfod àc yn ymdyru nes dwyn oddiamgylch yr effaith anhyfryd. 1. Un o'r defnyddiau hyn o'i marwolaeth oedd cynhenau cyson ei llwythau a'i thywysogion bychain a'u gilydd, a'r terfysgoedd a'u canlynent o angenrheidrwydd. Pan ddaeth yr Iutiaid, yr Angliaid, a'r Saxoniaid yma, cawsant y Cymry yn ymrys.on a'u gilydd. Cymerodd y dyeithriaid hyn fantais ar y sefyllfa ymrysongar hon, ac ymsefydlasant yn y wiad gan 25