Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR MAWRTH, 1868. YE EGLWYSI AMTIBYNOL YN EU PEETHYNAS AG EGLWYS LOEGE YN NGHYMEU. GAN ESGOB ANNIBYNOL. Bhed yr elfen oljectẁe (mae y gaìr yn gynefin i'r darllenwyr erbyn hyn, a'i ystyr yn ddealladwy) trwy yr Eglwys Sefydledig yn ei holl gysyllt- iadau. Yr ydym wedi ei holrheinio trwy y defodau sydd yn tìÿnu o'i mewn, yn nghyd a'i golygiadau Pabyddawl am natur y swydd offeiriadol— y galluoedd a gyfrenir iddi, a'r rhinweddau a dybirsydd yn deilliaw oddi- wrthi. Gellir olrhain yr un elfen trwy gangenau ereill sydd yn perthyn iddi. Os edrychwn ar y moddion a ddefnyddir gan yr Ymneillduwyr, a'u cymharu a'r moddion a ddefnyddir gan yr Eglwyswyr, canfyddir fod gwa- haniaeth dirfaẅr yn ffynu rhyngddynt. Ymddibyna y blaenaf ar ddylan- wad y weinidogaeth, a moddion moesol, i gasgîu cynulleidfaoedd a chrynhoi y plant i'r ysgolion Sabbathol. Ond os edrychir ar j'sbryd yr Eglwys, yn Lloegr, ac yn y trefydd yn Nghymru, lle y mae yn cael cyf- leusdra i amlygu ei hun yn ei nodweddion priodol, gwelir tuedd gref i gyrhaedd dylanwad ar y bobl trwy gyfryngau ereill—nid moesol, ond cnawdol—nid moddion eydd yn tueddu i ddylanwadu ar y rheswm a'r gydwybod, ond y rhai sydd yn dylanwadu ar y synwyrau corfforol. Ym- drecha Ymneillduaeth i osod y bach yn y gydwybod; ond ymgais yr Eglwys ydyw ei osod rhywle gerllaw y genau. Nid yw y pethau allanol heb eu dylanwad—llwyddant i gasglu cynulleidfa; ond y maent yn holloi anghymhwys i gyfranu un daioni ysbrydol i'r meddwl. Anhawdd dych-* ymygu y fath ddylanwad a enillir gan foneddiges, neu ddwy, mewngwlad neu dref, pan ymosodant ar ddefnyddio yr holl adnoddau swyngar sydd ganddynt. Nid ydym yn awgrymu (pell oddiwrth hyny) nad yw eu Ìiam- eanion yn dda, a'u dybenion yn ganmoladwy ; ond y mae yn eglur fod dylanwad y pethau allanol a ddefnyddiant ys gorbwyso, neu yn hytrach yn gwrthweithio, yr addysgiadau moesol a gyfranaut. Bydd y dynion mewn oedran yn meddwl mwy am yr anrheg nag am y bregeth, a'r plant a deimlant ddylanwad y teganau a'r melus-bethau yn fwy na dylanwad y gwirioneddau. Mae yr objectẁe yn drech na'r subjectẁe—^y "dorth" yn drech na'r bregeth. Ond y mae i'r ysbryd oljectẁe hwn, yn ei berthynas a lledaeniad yr Eglwys, ddau wyneb—gwyneb traws iawn, a gwyneb teg iawn. Edrych un yn siriol a swyngar ; ond y mae yr olwg ar y llall yn sarug dros ben.