Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWE. CHWEFROR, 1868. CATECHITMENS* NEU YSGOLEIGIOtf YR EGLWYSI CYOTEFIG. GAN Y PARCH. J. GRIFFITHS, ST. FLORENCE. Yn ganlynol i'r oes apostolaîdd, yr hon a derfynodd gyda marwolaeth yr apostol íoan yn Ephesus, tua'r flwyddyn 100 o'r cyfrif Cristionogol, ni gawn yn y canrif nesaf oes y Tadau Apostolaidd. Y niae y ddau ganrif yma yn cael eu nodi allan gan haneswyr eglwysig o bob dosbarth, o leiaf yn mhlith Protestaniaid, fel oes auraidd {golden age) yr eglwys Gristion- ogol. Y mae y trydydd a'r pedwerydd canrif j^n sefyll allan mewn cyfer- byniad hynod iddynt. Y mae Waddington yn aros gyda phwyslais neill- duol ar y cyferbyniad hwn. Ei eiriau ef ydynt, " Y mae yn hyfryd aros gyda y tymhor hwn, pan oedd ffydd eto yn ieuanc ac îr o'r nefoedd, ao yn cludo ganddi ymarweddiad a duwiolder. Dysgir ni yn wir i gredu yn ostyngedig y bydd, yn mhen rhyw dymhor dyfodol a thebygoí pell yn mlaen, yr holl fyd i gael ei uno rnewn gwir ysbryd ac ymarferiad o Grist- ionogaeth. Ond wrth arolygu hanes y canrifoedd aethant heibio, gorfodir ni i gyfaddef mai yr unig batrwn (model) i'r amser dysglaer hwn sydd gyfyngedig i'r ddau ganrif cyntaf o'n ffydd, ac iddi ddechreu colli ei rhagoriaeth cyn diwedd y tymhor hwn ; ond byr fel ag yr oedd, yr ydym eto yn rhedeg ato gyda hyfrydwch duwiol; ac yr ydym yn Uawenhau fel dynion ac fel Crrstionogion fod ein natur wedi ei chael yn feddianol ar gymhwysderau i'r fath dderchafiad santaidd, ac mai ein crefydd oedd yr offerynoliaeth a'i derchafodd." Yn ystod y ddau ganrif blaenaf, darfu i Gristionogaeth ledu ei dylanwad yn y fath fodd ag nas gwnaeth byth drachefn, a hyny yn ngwyneb eilidig- aethau o'r natur ffyrnicaf, ac ar amserau yn cael eu gosod uiewn grym gan holl nerth yr ymherodraeth Eufeinig; o ganlyniad, y mae yn ymchv.il o'r pwysicaf pa fath oedd sefyllfa dumewnol yr eglwys yn yr oes auraidd hon—pa fodd yr oedd y gwirionedd yn cael ei ledaenu rhwng cenedloedd y ddaear—pa fodd yr oedd y gwirionedd yn cael ei hebrwng a'i gludo yn mlaen i'r genedl oedd yn cyfodi i fyny. Yn y tymhor hwn, nid oedd cojn o'r Beibl oddieithr mewn llawysgrifau, a'u pris yn mhell uwchlaw * Y niae y geiriau catechism a catechiso yn dra chynefin i'n hiaith. Y niae y gair catechumen yn perthyn i'r un teulu Groegaidd, ac yn golygu yr ìiwn sydd ya cael ei galechiso, neu yr hwn sydd yn dysgu ei gatechism.