Skip to main content

Y DIWYGIWR IONAWR, 1868. YE EGLWYSI AOTIBY^OL Y¥ EIT PERTHOTAS AG EGLWYS LOEGR YN NGHYMlttJ. GAN ESGOB ANNIBYNOL. Ymadrodd hynod yw " Eglwys Loegr" yn Nghymru, ond ymadrodd eithaf cywir ydyw. Awgryma mai nid eglwys y Cymry ydyw, er ei bod yn Nghymru; a dyna ydyw y ffaith. Mae wedi ei sefydlu yn y Dywysog- aeth er ys canoedd o flynyddoedd. Nid ydyw, er hyny, wedi gwreiddio yn nghalon y genedl. Nid yw ei threfn a'i gwasanaeth yn cyd-daro ag anian ac athrylith y bobl. Ymddengys yn gyífelyb i bren wedi ei blanu mewn tir ac hinsawdd anghydrywiol a'inatur; nid yw ei wreiddiau yn cyrhaedd i'r dyfnder, a'i gangenau yn ymledu ac ymddyrchafu yn brydferth ; ond rhyw olwg gancraidd sydd arno. " Eglwys Loegr " y gelwir hi; a dynion o Loegr neu ryw wlad arall yw ei llywodraethwyr. Nid oes un Cymro yn mhlith ei hcsgobion. Nid yw hyn yn anrhydedd i ni fel cenedl. Sarhad o'r mwyaf arnom ydyw gosod Sais dan yr angenrheidrwydd i ddysgu Cymraeg er cymhwyso ei hun i fod yn esgob yn Nghymru, pan y mae digon o Gymry yn eithaf cymhwys i'r swydd. Nid yw yn ddim i mi fel Ymneillduwr; ond fel Cymro, yr ydwyf yn teimlo yn fawr o herwydd y sarhad a deflir arnom fel cenedl; ac yn teimlo llawer mwy o herwydd yr ysbryd gwasaidd 'tfydd yn dyoddef y cyfryw sarhad. Tra y byddo esgobion yn Nghymru, hoíîwn weled Cymry. yn esgobion. Ond y mae Eglwys Loegr yn Nghymru, ac o angenrheidrwydd, yn cario dylanwad mwy neu lai ar y genedl; a gallwn fod yn hyderus y bydd i'r dylanwad gael ei deimlo yn gryfach yn Nghymru yn y blynyddoedd dyfodol nag yn yr oesoedd aethant heibio. Mae ysbiwd ac elfenau newyddion ar waith ynddi. Pa beth bynag fydd tynged yr eglwys yn ei pherthynas a'r llywodraeth wladol, gallwn sicrhau fod elfenau dylanwad ynddi, y rhai a allant ymddadblygu gyda nerth mawr. Nid ydwyf yn cydolygu a'r cyfryw sydd yn tybied y bydd i ddyddiau yr eglwys yn Nghymru gael eu rhifo i fyny y dydd y torir ei chysylltiad a llywodraeth y wlad. Ai tebyg y bydd i'r offeiriaid a'r bobl yn wyneb y fath amgyJchiad ymadael o'r eglwys a cheisio lloches mewn rhywle arall, yn debyg fel y gwna llygod ffreinig ymadaw a thy dadfeiliedig ? Na wnant yn ddiau. Mae miloedd yn hofíi ei meini ac yn caru ei llwch hi, a glynant wrth ei