Skip to main content

Y DIWYGIWR. Ehif. 363.] EHAGFYB, 1865. [Cîí. XXX. ANERCHIAD YMADAWOL. Gyfeillion hoff,—Y diweddaf! y diweddaf! Y rhifyn diweddaf, a'r r* anerchiad diweddaf! Y mae difrifoldeb a phrudd-der yn taflu eu cysgod- ion dros y diweddaf o bob peth. Mae yr olwg ddiweddaf ar wyneb cyfaill neu berthynas yn tynu y dagrau i'r llygaid yn hyrwydd iawn, ac yn cych- wyn ocheneidiau o'r galon yn hynod ddidrafferth. Byddai y wybodaeth ein bod ar derfyn y flwyddyn ddiweddaf, y mis diweddaf, yr wythnos ddiweddaf, y dydd diweddaf, y Sabbath, yr odfa, a'r bregeth olaf, yn sicr o greu difrifoldeb yn meddwl y mwyaf caled ac anystyriol. Ymofidiai y bobl yn Mileíus yn benaf am y gair a ddywedodd Paul, na chaent weled ei wyneb ef mwyach. Na chyfrifer ninau yn faldodus nac yn goegfalch, os dywedwn ein bod yn teimlo tra yn ysgrifenu yr anerchiad olaf, ac yn anfon allan y rhifyn diweddaf o'r gyfres hon o'r Diwygiwr. Pa fodd y gallwn lai na theimlo wrth ymado â hen gyfaill a gostiodd i ni bryder dwys a gobeithion pleserus, llawer o waith a llawer o hyfrydwch. Buom mewn rhyw fath o wewyr uwchben pob un o'r tri chant a thriugain a phedwar rhifyn a ymddangosodd yn ysbaid y deng mlynedd ar ugain diweddaf; ac nid oeddym yn mhell, debygem, o wybod rhywbeth am deimladau y wraig a anghofiai ei gofid gan lawenydd geni dyn i'r byd ar ymddangosiad pob rhifyn. Yr ydym yn teimlo awydd i ddiolch wrth ym- adael, na chafodd unrhyw chwthwm brofedigaethus ein gorchuddio â gwarth ac â chywilydd, nes ein hollol anaddasu i fyntumio y sefyllfa an- rhydeddus y gosodwyd ni ynddi yn nglyn â'r Diwygiwr ; ac y mae arnom rwymau neillduol i ddiolch i Dduw am roddi o hono ef i ni hawddgar- wch yn ngolwg ein hanwyl frodyr yn y weinidogaeth o bob oedran a sef- ýllfa, fel na bü achos i ni encilio o'r maes o ddiffyg cefnogaeth a chyn- órthwy, ac ni bu ond ychydig fel meibion Ephraim, yn arfog ac yn saethu â bwa, ac yn troi eu cefnau yn nydd y frwydr. Meddyliem bob amser uwchben ein hanerchiad blynyddol, y gallasai fod yr olaf i ni; cofìem fod ein bywyd yn frauol ac ansicr, ao y galiasai angeu ostwng ein nerth ar y fforda, a byrhau ein dyddiau, cyn y caẅsem ysgrifenu un ar ol hwnw ; ond o diriondeb a daioni Duw, wele ni wedi ein harbed i weled ysgrifenu yr olaf i ni, a gwybod mai yr olaf yw. M Fy enaid bendithia yr Arglwydd, ac nac anghofia ei holl ddoniau ef." Wele ni yn awr yn ymgilio o'r maes, ac yn gollwng y fantell i ddisgyn oddi am danom ar ysgwyddau sydd ieuengach. Mae llawer o bethaü ac amgylchiadau yn rhuthro i'n gwydd, ac yn ymwthio i'n cof, ag nad ydynt yn rhoddi pleser i ni feddwl am danyní' bob. amser. Adgofir ni gan yr 45