Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Ehif. ^8Í.] HYDREF, 1865. [Cyf. XXX. ANHEBCiORION CREFYDD GYMDEITHASOL. GAN Y PARCH. SAMUEL THOMAS, BETHLEHEM. " Anhebgobion crefydd gymdeithasol:" neu mewn geiriau ereill mwy eglur i bawb, Beth raid fod mewn unrhyw ddyn cyn y byddo yn gymhwys i gael parhad o'i aelodaeth eglwysig. Peth mawr er cysur a Uwyddiant unrhyw gymdeithas, yn enwedig eglwys Iesu Grist, ydyw, fod ei holl ael- odau yn deall y fan y mae y personol i gael ei roddi i fyny i'r cymdeith- asol; hyny yw, pryd y mae dyn i gael gwneud fel y myno, gan ddal ei hun yn gyrrifol yn unig i'w Arglwydd a'i Dduw fel un a eilw bawb i farn, ac a dâl i bob dyn fel y byddo ei weithredoedd; a pha bryd y mae i deimlo fod gan gymdeíthas hawl a rhwymau i'w alw i gyfrif, ac y bydd yn ddy- . ledswydd arno yntau i ymostwng, os myn gael cadw ei le fel aelod yn eu mysg. Y mae yn sicr fod camddealldwriaeth o'r pwne hwn wedi bod yn achlysur o deimladau anhyfryd mewn personau, ac o ymryson mewn eglwysi. Y mae rhaid a bodd wedi ac yn bod mewn crefydd gymdeithasol. Yr oedd yn rhaid i bob mab ugain mlwydd ac uchod yn Israel gynt i roddi haner sicl o arian at forteisiau y cyntedd, wrth adeiladu y taberaacl yn yr anial- wch. Beth ydyw yr addysg, os nid hyn,—Fod yn rhaid cael syífaen dda i'n crefydd, yr hon yw Iesu Grist, ac fod yn rhaid i bob crefyddwr da fod a chygylltiad rhyngddo a'r sylfaen hon er bod yn feddianol ar grefydd foddlona Dduw, ac a ddalio y prawf tanllyd yn y dydd diweddaf. Gwel Ex. xxxviii. 26. Yr oedd yn rhaid hefyd dan y gyfraith foesenaidd i bob un a elai dan rif i roddi haner sicl yn iawn am, neu yn gymod dros ei enaid, fel na byddai pla yn Israel. Nid oedd y cyfoethog i roddi mwy, na'r t^rlawd i roddi llai—haner sicl gelai y cyfoethog roddi, a haner sicí fyddai raid i'r tylotaf rwddi. Yr addysg feddyliem, ydyw, fod pawb yn gydradd gerbron Duw am iacnawdwriaeth—yr un telerau i bawb. Nis gall y cyfoethog brynu crefydd. Nid oes royal road i feddiant o grefydd mwy nag i ddysgeidiaeth. Rhaid cydymffurfio ag amodau er cyrhaedd dysg a cnrefydd. O'r ochr arall, nis gall y cyfoethocaf roddi crefydd fel rhyw elusen i'r tylotaf. Yma y tylawd a'r cyfoethog gydgyfarfyddant. Yr Arglwydd yw gwneuthurwr y rhai hyn oll. Diar. xxii. 2. Y mae un man y myn Duw bob dyn yn gydradd. Rhaid i'n grasusaf Frenines Victoria ddyfod yn dylawd heb feddu dim, fel yr hen wraig dylotaf o fewn terfynau ei theyrnas, i bwyso ar ras digonol Orist, am yr iachawdwriaeth a fydd byth a'r cyfiawnder bì dderfydd, " Canys nid oes gwahaniaeth." 38