Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 355.] EBEILL, 1865. [Cyf. XXX. Y DILUW. GAN Y PARCH. RHYS GWESYN JONES. (Parliad o tud. 74.) Yr ydym yn bresenol yn dyfod at gwestiwn pwysig yn ei gysylltiad a'r pwnc hwn, a meddyliwn ein bod yn y man mwyaí' priodol i'w ofyn, sef, A fu y diluw dros yr lioll ddaear, neu ynte ai rhywbeth lleol ydoedd ? Bernid yn gyffredinol am oesoedd lawer fod dyfroedd y diluw wedi am- gylchu pelen y ddaear. Pan ddechreuwyd myfyrio daeareg, bernid yn gyffredin y gellid cyfrif am yr holl bethau rhyfedd oeddynt yn dyfod i'r golwg trwy gyfrwng y diluw. Bernid fod y pysgod a gaed yn y creigiau wedi dyfod yno yn amser y diluw. Dywedai l)r. John Woodward fod y ddaear wedi ei dryllio, a'i hail ffurfio yn amser y diluw, a thrwy ddeddf pwys a thyniad fod y sylweddau ysgafnaf wedi disgyn i'r man isaf. Eel hyn yr oedd efe yn eyfrif am sefyllfa bresenol calch, haiarn, a glo. Yr oedd y ddaear, medd efe, yn ei sefylìfa newydd yn hollol wastad, ond buan iawn yr effeithiodd y gwres tanddaearol arni, nes ei dwyn i'r agwedd sydd arni yn bresenol. Peth arall hefyd a esbonid ar y dybiaeth fod y diluw yn gyffredinol, yw y ceryg mawrion a geir yn Lloegr yn perthyn i chwar- elau Scotland, y rhai mae yn ddigon amlwg eu bod wedi eu cludo yno gan ddwfr; ac weithiau ceir ceryg o Norway. Cymerid hyn fel prawf fod y dyfroedd yn rhedeg o'r gogledd tua'r de. Ond yn anfanteisiol i'r golygiad hwn, y mae amryw geryg i'w cael i'r gogledd o'r ehwarelau, yn mha rai yr oeddynt yn wreiddiol. Ehoddwn yma ein rhesymau dros gredu na bu y diluw dros yr holl ddaear yn amser Noah. Wrth edrych ar gyfansoddiad y ddaear, cyfar- fyddwn a llawer o bethau sydd yn milwrio yn erbyn y drychfeddwl ei bod wedi ei dwyn i'w ffurf bresenol ar unwaith. Er enghraifft, cyfarfyddwn â haenau o greigiau heb ynddynt ddim gweddilliou ltysiau na chreadur- iaid, ac uwchlaw iddynt rai creigiauyncynwysgweddiílion pysgod, y rhan fwyaf o honynt yn hollol wahanol i'r rhai ydynt yn byw yn y moroedd a'r afonydd yn bresenol. Uwchlaw y rhai hyn eilwaith ceir gweddillion llys- iau, pysgod, a chreaduriaid tir sych, ond o fath hollol wahanol i'r hyn a welir yn bresenol yn ein gelltydd neu ar ein mynyddoedd. Natùriol iawn i ni otÿn ynte, A fedrai pethau gael eu gosod mor drefnus trwy weithred- iad un llifeiriant mawr ? Heblaw hyn, nid oes dim olion dynol wedi eu cael yn un o'r haenau creigaidd, yr hyn fuasai yn beth hynod iawn pe buasai dyn ar y ddaear pan ffurfiwyd hwynt. Eto, wrth edrych ar yr hyn 12