Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. ? Eiiif. 352.] IONAWE, 1865. [Cyp. XXX. PROSELYTIAETH PHARISEAIDD. GAN Y PARCH. DAVID JONES, HERMON. Yr oedd y Phariseaid yn blaid grefyddol boblogaidd yn Judea yn nydd- iau ein Harglwydd Iesu Grist. Hwy oedd yn eistedd yn nghadair Moses ac yn cyfranu addysg i'r bobl. Y mae y Testament Newydd wedi gwneud neillduolion y blaid hon yn ddigon adnabyddus i bob Cristion. Dygent fawr sel dros seremoniau y gyfraith a thraddodiadau y tadau, a honent dir uwch mewn santeiddrwydd na phobl ereill; ac yn eu hym- ddygiad dywedent wrth bawb tuallan i'w plaid, Saf ar dy ben dy hun, canys santeiddiach ydwyf fi na thydi. Yr oeddynt yn santeiddiach na santeiddrwydd, yn berffeithiach na'r gyfraith, ac yn gallu rhoddi mwy o wasanaeth i Dduw nag a allai ofyn yn gyfiawn oddiar eu llaw. Yr oedd- ynt yn dra ymdrechgar i enill dynion o'u cenedl eu hunain ac o genedl- oedd ereill i gofieidio eu golygiadau crefyddol. Amgylchent fôr a thir i wneuthur un proselyt; ymwasgarent drwy yr ymherodraeth Eufeinig, ac arferent eu dawn a'u dylanwad yn mhob tref a dinas i enill y paganiaid; a buont yn llwyddianus i broselytio llawer. Achwynai awdwyr Ehufeinig oblegyd eu llwyddiant, a dywedai Seneca am dan^mt yn ei waith ar ofer- goeliaeth, fod y gorchfygedig yn rhoddi deddfau i'r gorchfygwyr. Dyma eífaith ymdrech ac aberth, canys nid arbedent draul na thrafferth i sicr- hau eu hamcan. Ond er iddynt ymdrecha a llwyddo i wneud miloedd yn broselytiaid, a pheri i'r llywodraeth Eufeinig deimlo eu dylanwad, yn hyn oll nid oeddynt i'w canmol; canys ni cheisiwyd hyn oddiar eu llaw. Plant uffern oeddynt, ac effaith eu llafur proselytiol oedd gwneud eu proselytiaid yn blant uffern dau mwy na hwy eu hunain. Wrth dderbyn pethau gwaethaf Iuddewaeth, nid oedd y proselytiaid hyn yn colli ysbryd nac yn gadael arferion paganiaeth; ynddynt y cyfarfyddai elfenau tywyll Iuddewaeth ac elfenau aflan paganiaeth ; a chan eu bod dan lywodraeth unol yr elfenau drwg hyn, yr oeddynt yn berffeithiach rhagrithwyr, yn aflanach addolwyr, ac yn greulonach erlidwyr na'u meistri. Ni dderbyn- iodd un o'r proffwydi orchymyn oddiwrth Dduw i fyned a phregethu deddf Moses, na hyd y nod athrawiaethau sylfaenol crefydd ddadgudd- iedig i'r cenedloedd. Yr oedd y Phariseaid gan hyny yn gweithredu heb un awdurdod ddwyfol. Ond er na chafodd yr eglwys Iuddewig orchymyn