Skip to main content

Y DIWYGIWR. Ehif. 339.] EHAGFYE, 1863. [Cyf. XXVIII. Y GWYLIAU IUDDEWIG. Ehoddasom ddamodiad byr o'r gwyliau Iuddewig yu y rhifyn blaenorol» yn awr ceisiwn olrhain yr egwyddorion. efengylaicd a Christionogol a ddygant i'r golwg. Ehagwelai yr Anfeidföì y buasai .hywbeth i gyffroi cywreinrwydd ae anhawdd ei ddeall ynddynt, Hxod. xxvi. 12, "A bydd pan ddywedo'eich meibion wrthych, pa wasanaeth yw hwn genych ?" Yr oedd yn rhoddi iddynt atebiad, modd y gallasent foddloni ymchwiliad manylaidd y plant. Mae y fath gwestiwn yn cael ei ofyn eto weithiau, ac nid oes ateb gwell i'w roddi, na'u bod yn gysgod daionus bethau i ddyfod, tra yr oedd y corff o Grist. Gallwn weled yma hynafiaeth a dwyfoldeb addoliad teuluaidd. Duw a drefn- odd y boreuol a'r hwyrol offrwm yn eu hamser a'u dull priodol, ac a wnaeth hyny yn "ddeddf dragywyddol" yn Israel trwy eu holl genedl- aethau ; ac nid oedd dim i gael ymj7ryd â hyn, oblegyd yr oedd yn offrwm gwastadol, yn ei amser penodol hwyr a bore. Hwyrach i Israel esgeu- luso llawer o ddefodau ac aberthau tra fuont yn teithio yn ej anialwch, (Amos v. 25; Act. vii. 42); ond tebygol yw iddynt gadw hwn yn rheol- aidd yn ysbaid y deugain mlynedd y buont ar eu taith; ac y mae'n debyg na phallodd erioed, hyd nes i Antiochus (Dan. viii. 11) ddwyn ymaith yr offrwm gwastadol oddiar dywysog y Uu, oddeutu cant a thriugain a phump o flynyddau cyn ymddangosiad y GJjparedwr. Y mae pobl dduwiol a de- fosiynol yn parhau yn mhob oes i aberthu ar yr allor deuluaidd fore a hwyr. Gorchymyna yr Arglwydd " dywallt diod gref ar yr allor yn ddiod offrwm i'r Arglwydd gyda'r offrwm gwastadol," (Num. xxviii. 7,) yr hyn a awgryma fod tuedd yn yr addolwyr i fyned heibio i'r ddyledswydd yn ys- gafn. Buasent yn dueddol i feddwl, gan mai ar yr allor yv oedd y ddiod i gael ei thywallt, y gwnelai rhyw fath y tro. Y mae tuedd neillduol ynom i farweiddio ac i lithro i ffurfìoldeb gyda dyledswyddau dyddiol a gyfiawnir tua'r un amser a'r un modd. I ysgoi hyn, gofalai yr Arglwydd fod yr awr yn un briodol ac amserol; ac os na ellir cadw y ddyledswydd mewn amser y dichon i'r teulu fod yn fywiog ac effro, byddai yn well ei gadael; ond nid ychydig o beth ddylai gael sefyll ar ei ffordd i gael ei chyfiawni yn ei hamser. Gwelir hefyd yma ddwyfol osodiad y Sabbath, a'r parch sydd i fod ìddo, a'r addoli sydd i fod arno. Yr oedd y bobl i orphwys, yr aberthau i gael eu dyblygu, a chymanfa santaidd i gael ei chadw. Nis gwyddom pa un a ddarfu i Israel barhau i gadw y Sabbath trwy ysbaid eu harosiad yn yr Aifft ai peidiò ; ond ail gyhoeddodd Duw ef ar Fynydd Sinai, Exod. xx. 8—21. Nid oeddynt i wneud gwaith; yr oedd manna ddigon yn cael ei roddi ddydd Sadwrn dros ddau ddydd, fel nad oedd manna, nac 46