Skip to main content

Y DIWYGIWR. Ehif. 338.] TACHWEDD, 1863. [Cyf. XXVIII. Y GWYLIAU IUDDEWIG. Gwyliau yr Arglwydd y gelwir hwynt gan Moses, Lef. xxiii. 4. Gwyliau yr Arglwydd, am mai efe a'u trefnodd ac a'u hordeiniodd hwynt yn eu holl ffurfìau, eu defodau, a'u haberthau. Gwyliau yr Arglwydd, am mai eu prif amcan oedd cynull Israel yn nghyd i addoli yr Arglwydd, ac i gymdeithasu a'u gilydd mewn " cymanfaoedd santaidd," yr hyn yw yr enw mwyaf c^ẅedin arnynt yn yr ysgrythyrau, a'r rheswm paham y gelwir hwy felly a roddir yn adnodau 2, 4, 37 ; uchel wyliau rheolaidd i addoliadau cymdeithasol a chyhoedd oeddynt, yn hytrach na gwleddoedd gwleidiadol gorfoleddus. Y mae golygiadau gwahanol wedi eu coleddu gan rai duwinyddion Germanaidd i'r hyn ellir yn naturiol gasglu oddiwrth Lef. xxiii.; haerant taw cynulliadau trefnidol, teuluyddol, a gwladol hollol oeddynt, a bod y bobl yn cyfarfod nid i ymarfer defodau anhynaws, ac ymwneud ag addoliadau crefyddol sychlyd, ond yn hytrach i fwynhau byd da, segur, cyfrinach gymydogol, a chyfleusderau masnachol. TJn o ddy- benion yr uchel wyliau a ofynent bresenoldeb y bobl yn y babell santaidd, oedd yn ddiau i ddangos, i gynal, a chryfhau unoliaeth y genedl santaidd; ond yr oedd yr unoliaeth yn benaf a blaenaf yn un grefyddol, ac nid yn rhyw uniant gwladyddol. Nid cyfarfod a'u gilydd yn unig oedd y bobl i wneud, ond yr oeddynt i gyfarfod â Duw, i gyflwyno eu hunain iddo fel cyfangorff, ac i ymrwymo yn gymdeithasol i fod yn eiddo i'r Jehofa. Enaid yr oruchwyliaeth Eoesenaidd, a sylfaen bodolaeth grefyddol a gwladol y genedl, oedd ei chyfamod â Duw; ac nis gallasai dim fod yn addasach i gadw hyn ar gof, ac i adfywio, cryfhau, a pharhau yr ymwybyddiaeth o hyn, na chynulliadau o'r fath ag y cyfeirir atynt. Ac i gael amser a chyf- leusdra i gynal y eymanfaoedd santaidd hyn, yr oedd angenrhaid yn gysylltiedig a hwynt oll i gael "gorphwysfa santaidd" heblaw ar y Sab- bath oddiwrth lafur bydol. Yr oedd dau ddydd gorphwysfa yn nglyn â Gwyl y Pasg—y cyntaf a'r diweddaf, un â Gwyl y Pentecost, un â Gwyl yr Udgyrn—Gwyl y Cymod, a dau â Gwyl y Pebyll—y cyntaf a'r diweddaf; a chan fod y dyddiau hyn yn cymeryd eu nodwedd oddiwrth y Sabbath, yr oedd yr orphwysfa arnynt yn ddiau o'r un natur. " Ehoddais aefyd iddynt fy Sabbathau i fod yn arwydd rhyngof fì a hwynt, i wybod niai myfi yw yr Arglwydd a'u santeiddiodd hwynt." Ezec. xx. 12. % Ordeiniwyd y Sabbath, fel y mae yn eglur, nid yn unig er ymatal oddiwrth waith a Uafur caled perthynol i'r byd hwn, ond hefyd er rhoddi cyfleusdra i lafurio am bethau uwch a mwynhau pethau gwell nag eiddo y ddaear. Yr oedd yr orphwysfa Sabbathol nid at feithrin diogi à segurdod, nac at fwynhau pleserau cnawdol ac anifeilaidd, ond i ddychwelyd yr enaid at yr hwn sydd yn orphwysfa iddo. " Myned i mewn i'w orphwysfa ef" yw y 42