Skip to main content

Y DIWYGIWE. Ehif. 337.] HYDEEF, 1863. [Cyf. XXVIII. ANNIBYNIAETIÎ YJV NGHAERDYDD. GAN Y PARCH. D. JONES, B.A. Blwyddyst Ymneillduaeth oedd y flwyddyn ddiweddaf. Siaradwyd ac ys- grifenwyd mwy am Ymneillduaeth ac Annibyniaeth yn nghorff y flwyddyn ddiweddaf nag yn ystod yr ugain mlynedd blaenorol, a dyweyd y lleiaf. Wrth ehwilio a holi, a thynu y llwch oddiar hen gyfrolau a phamphletau yma a thraw, cafwyd allan lawer o ffeithiau oyffrous sydd yn awr yn siarad yn groch yn erbyn Eglwysyddiaeth, ac yn dangos ymdrechion egniol a gogoneddus Ymneillduaeth mewn llawer cymydogaeth. Er fod cysylltiad boreu rhwng Caerdydd a'r cylchoedd ag Ymneillduaeth, nis gall ymffrostio yn hynafiaeth ei Hannibyniaeth, yr hon sydd gymharol ddiweddar. Arweiniwyd ein meddwl i wneud ychydig o ymchwiliad i hanes Anni- byniaeth yn Nghaerdydd gan gyfarfod jubili yr ail Ebenezer, yr hwn a gynaliwyd ychydig wythnosau yn ol. Nid oes rhaid i ni fyned yn mheil- ach yn ol na'r flwyddyn 1826, cyn cael Caerdydd heb un capel Annibynol o'i mewn. Er nad oedd eglwys Annibynol yn y dref, yr oedd yma amryw eglwysi Ymneillduol cryfion, a'r enwog Christmas Evans yn weinidog i'r Bedyddwyr Cymreig. . Yr oedd yma hefyd eglwys Henaduriaethol, i'r hon oedd y Parch. T. James yn weinidog, ac o'r hon y tarddodd yr eglwys Annibynol gyntaf. O'r ychydig Annibynwyr oedd yn byw yn y drefy pryd hwnw, yr oedd rhai yn aelodau yn y Groes Wen, ac ereill yn y Trinity. Penderfynodd yr j'ehydig ffyddloniaid hyny i uno a'u gilydd, ac i gychwyn eglwys Annibynol. Wedi penderfynu uno a'u gilydd i ddech- reu achos Annibynol, y pethcyntaf i'w wneud oedd cael lìe cyfleus i addoli. Llwyddwyd i gael hen gerbyd-dy fcoach-housej ar ardreth o ddau swllt yr wythnos. Safai yr hen gerbyd-dy hwnw ar lan yr hen angorfa. Yn mis Mawrth, 1826, corffolwyd yno eglwys. Y cyntaf a bregethodd yn y cer- byd-dy oedd y Parch. Shadrach Davies o'r Maendy. Bu G-rifEths, Castell- nedd, Davies, Taihirion, Hughes, Groes Wen, ac ereill, yn garedig iawn i'r achos gwan, drwy ddyfod atynt i bregethu yn achlysurol; ond er pob cymhorth a charedigrwydd gweinidogion y cylch, egwan ac eiddil oedd yr achos yn parhau. Yr oedd diffyg lle cyfleus a chysurus i addoli, a diffyg gweinidog sefyilog, yn ei gwneud yn anhawdd iawn i'r eglwys fechan i weithio ei ffordd yn llwyddianus, gan fod dylanwad y Bedyddwyr, y Meth- odistiaid, ac ereill, eisoes yn gryf yn y dref. Mewn cysylltiad a'r cerbyd- dy dygwyddodd un amgylchiad nas gallwn ei basio yn ddisylw. Wedi ei ddodrefnu cafwyd fod y ddyled yn £15, yr hyn oedd swm fawr i'r ychydig 38