Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Ehif. 336.] MEDI, 1863. [Cyf. XXVIII. HANESYDDIAETII ATHRAWIAETHAU. GAN Y PARCH. DAVID THOMAS, LLANGYNIDR. CYTNOD Y DIWYGTAD PROTESTANAIDD. Y cyfnod mwyaf rhyfedd a chynhyrfus yn hanesyddiaeth athrawiaethaa a'r eglwys er y cyfnod apostolaidd. Dechreuodd y cyfnod hwn pan osod- wyd daliadau Luther, mewn pedwar ugain a phymtheg o osodiadau, ar ddrws eglwys Wittemberg, ar yr 31ain o fis Hydref, yn y íìwj'ddyn 1517, dydd gwyl yr holl saint; a pharhaodd hyd gyfodiad Athroniaeth Ẅolf, yn y flwyddyn 1720. Cynhyrfodd gosodiadau Luther yr Eglwys Babaidd drwỳddi oll: rhoddwyd ergyd marwol iddi ar ddrws un o'i íieglwysi ei hun ; ac y mae wrth y gorchwyl o farw oddiar hyny hyd yn awr. 0 hyn allan y mae nos dywyllddu y Canol Oesau yn dechreu cilio yn gyflyin iawn—nos o fìl o flynyddoedd, nos faith a thymhestlog, nos fel pe bai haul goleuni dydd moesol wedi machlud am byth, a thywysog llywodraeth yr awyr wedi sefydlu teyrnas tywyllwch oesol ar y ddaear. Yr oedd yr holl fyd crefyddol mewn sefyllfa ryfedd iawn—y tywyllwch wedi ei orehuddio, a'r fagddu wedi ymdaenu drosto—ysbrydolrwydd crefydd wedi myned yn hollol o'r golwg—mwy o bregethu ar seintiau nag ar Iesu o Nazareth; ac ar weithredoedd. da, penyd, a phurdan, nag ar edifeirwch, ffydd, gobaith, a chariad ; ac ar docynau maddeuant am bob peehod ac annuwioldeb, nag ' ar faddeuant rhad trwy ffydd yn ei waod ef. Yr oedd anwybodaeth, ofer- goeledd, a phechodau o bob math wedi eu cydgymysgu; ac eto, o'r tywyll- wch dudew yma daeth allan oleuni mawr; o'r annhrefn waethaf daeth allan drefn ; o'r caethiwed gwladol a chrefyddol caethaf daeth allan fìloedd o ddynion gwrol i ryddid gogoneddus plant Duw ; ac o'r defodau allanol ffolaf daeth allan wir ysbrydolrwydd crefydd. Yr oedd yr amser, 'ie, yr amser nodedig wedi dyfod; yr oedd Duw yn trugarhau wrth Sion; a'i gweision yn hofíi ei meini, ac yn tosturio wrth ei llwch hi. Pau y mae Duw yn gwneuthur gweithred fawr fawr, y mae yn gyffredin yn gwneuthur rhes o rai llai er parotoi y fíbrdd; ac y mae hefyd yn parotoi dyn mawr neillduol at y gorchwyl; a rhes o ddynion ereill er arloesi y ffordd o'i flaen. Fel hyn yr oedd mewn cysylltiad a'r Diwygiad Protestan- aidd; fe wnaeth Duw waith mawr mewn byr amser, a dyn mawr at y gorchwyl oedd Luther; mae yn sefyll ar ei ben ei hun er dyddiau yr apostolion hyd yn awr; eto, yr oedd Duw wedi codi rhes o ddynion gwir deilwng, ac hanfodol i'r Diwygiad, o'i flaen er parotoi y ffordd iddo; ac anghyfìawnder a'r Duw a'u cododd, a'u henwau hwy, ac a'r Diwygiad Protestanaidd, fyddai eu gadael yn hollol ddisylw. Soddwyd yr eglwys 34