Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DÍWYGIWR. Ehie. 334.] GOEPHENHAF, 1863. [Cyf. XXVIII. "5T BEIBL. GAN Y PAECH. T. DAYIES, LLANDILO. " Llusern yw dy air i'm traed, a llewyrch i'm llwybr." Mae yr Arglwydd yn dysgu dyn trwy yr hyn a wnaeth a thrwy yr hyn a ddywedodd. Mae gwybodaeth o weithredoedd Duwyn fanteisiol i ddeall geiriau Duw. Nid yw y naill wybodaeth yn milwrio yn erbyn y llall; canys yr un yw yr hwn sydd yn gweithio a'r hwn sydd yn llefaru. Y mae gwybodaeth o lyfr natur yn fanteisiol iawn i ddyn. Canfyddwn ynddo fraslun tarawiadol o berffeithderau ei awdwr. Y mae pob dalen o hono yn wastadedd eang—pob llinell yn nant redegog, a pbob penod yn fynydd cribog. Ond er hyn oll, mae yn eglur mai y Beibl sydd yn rhoddi y dadguddiad o Dduw ag sydd yn gymhwys i ddyn fel pechadur. Nid yw llyfr natur yn dyweyd dim am y cyfìawnder sydd yn bygwth yr euog, nac am y drugaredd sydd yn arbed yr edifeiriol. Pa gymaint bynag o wybod- aeth am Dduw a ellir gasglu oddiar ddalenau Uyfr natur, rhaid i ni wrth amlygiadau ychwanegol i gyfarfod a'n cyflwr isel, ac a'n natur lygredig— rhaid cael rhywbeth i arwain y meddwl i weled drwg pechod, i edifarhau am bechod, ac i addoli a charu Duw. Mae y Beibl yn gwneud hyn; ynddo y dangosir cj'fiawnder yn ymfoddloni, a dialedd yn ymdawelu yn nhywaíltiad gwaed yr Arglwydd Iesu, a thrugaredd yn wynebu ar yr euog. 0! na ysgrifenid coffadwriaeth o'r cariad rhyfeddol yma yn ein calonau; nid ag inc a phin, ond a'r gwaed a ffrydiodd o'i wythienau clwyfedig ef. Y Beibl. " Dy air." Ystyr y gair Beibl yw llyfr. Grelwir gair Duw felly mewn ffordd o ragoriaeth, o herwydd mai llyfr y llyfrau ydyw, yn rhagori ar bob llyfr arall yn ei awdwr, ei gynwysiad, a'i ddyben. Duw aH rhoddodd. " Yr holl ysgrythyr sydd wedi ei rhoddi trwy ys- brydoliaeth Duw." Nid ar unwaith, ond yn raddol—darn ar ol darn, fel y byddis yn dysgu plentyn i sillebu gair—llythyren ar ol Uythyren, sill ar ol sill; yna gosod y cwbl at eu gilydd yn y diwedd. Yr oedd gan Dduw air i'w sillebu—ei enw ei hun. Yn raddol iawn y gwnaeth hyny— llythyren ar ol llythyren, sill ar ol sill am oesau lawer. Yn y diwedd, daeth yn gyflawn : " Y gair a wnaethpwyd yn gnawd." Dadguddiodd Duw ei ewyllys i ddynion mewn llawer dull ac mewn llawer modd—trwy lafar-lais dwyfol—trwy ymddangosiadau personol ei Fab, yr hwn a gyfenwii yn Angel y Cyfamod, Angel Jehofa, ac Angel ëi bresenoldeb—trwy weinidogaeth angeÜon—trwy freuddwydion a gweled- 26