Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWE. Ehif. 333.] MEHEFIN, 1863. [Crc XXYIII. AT YR ESGOBION. Llythyb III.—Y Degwm. Fy Arglwyddi,—Nid fy aincan wrth eich anerch fel hyn o bryd i bryd ydyw eich argyhoeddi o hygasrwydd a mileiniwch y degwm, oblegyd yr wyf yn argyhoeddedig o fy anallu i wneud hyny, ac nid wyf chwaith yn pwrpasu eich cynddeiriogi chwi mor fawr nes anghofiwch eieh urddas gymaint ag i gynyg ateb fy llythyron, nagwneud un sylw pa bynag o honynt; ond teimlwn ychydig yn siomedig pe deallwn nad oes Uuaws mawr iawn yn eu darllen, ac yn teimlo awydd wedi eu darllen i gael y degwm yn oì i'w iawn berchenogion; ac nid drwg fyddai genyf, fy Ar- glwyddi, os byddant yn foddion i greu rhyw radd o betrusder ynoch chwi a'ch brodyr israddol yn nghylch eich teitl i'r eiddo a gyrhaeddasoch trwy hocedau offeiriadyddol, ac a ddaliasoch mor afaelgar a gorthrymus am gynifer o oesoedd, modd y gallech drefnu eich ty ar gyfer amgylchiadau gwahanol yn yr amser a ddaw. Llwyddasoch hyd yma i raddau anghyffredin i fwgwdu a safndagu y wlad trwy haeriadau beiddgar, ac areithiau goreofn yn nghylch haelion- usrwydd gorfawr ein henafìaid, a sel orwresog yr hen Eglwyswyr yn y dyddiau gynt, a gymunroddent yr eiddo eglwysig at wasanaeth crefydd, ac a adawent y degwm at gynaliaeth yr offeiriadaeth, yn hollol o gariad at yr achos. Mae yn eithaf gwir, fy Arglwyddi, i'ch cyndeidau fod yn fedrus iawn igyrhaedd wmbreddoedd o gyfoeth wrth wylioyn ymyl gwelyau hen gnafiaid cyfoethog, fuasent wedi treulio eu bywydau i ormesu ac ysbeilio, a mwrddro, a'u bygwth a dialedd tan tragywyddol os na fuasent yn cymunroddi y rhan fwyaf o'u heiddo i'r Eglwys, fel iawn am eu holl erchyllwaith. Nid ydych anwybyddus o'r hyn a ddywed Syr William Blackstone, "Gosodwyd peiriant ar waith, yr hwn oedd bencampwaith cyfrwysdra Pabyddol. Heb ymfoddloni ar y ddarbodaeth helaethlawn a wnaeth y Senedd ar lun degwm i'r offeiriaid plwyfol, ymdrechent trwy bob ystrywiau twyllodrus i ddylanwadu ar ofnau cibddeilliaid anwybodus a phechadurus, er crafangu tiroedd ac eiddo personol yr holl deyrnas; ac oni buasai i'r Senedd gyfryngu a gwrthsefyll eu hymosodiadau twyllodrus, buasent wedi llyncu cyfoeth y deyrnas yn hoílol. Anfonid mynachod benedic- taidd ar hyd a lled y wlad, y rhai a ffugient santeiddrwydd ac ymneillduedd oddiwrth y byd, ac a ymrwyment i weddwdod, ac a wisgent ymddangos- iadau sarugaidd a gwynebau suraidd ; llygad-dynent y bobl, a thwyllent hwynt wrth eu hewyllys; llwyddent i gael a fynent o arian a thiroedd i 22