Skip to main content

Y DIWYGIWE. Ehit. 330.] MAWETH, 1863. [Cü. XXVm. JOHN ANGELL JAMES FEL BUGAIL A PHREGETHWR. GAN Y PARCH. D. GREFFITHS, IETT., BETHEL. Yn y mÎ8oedd a aethant heibio, yr ydys wedi bod yn siarad a darllen cymaint yn nghylch hen wroniaid Anghydffurfiol yr eilfed canrif ar bym- theg, fel y gellid meddwl fod gan aml un o'n darllenwyr, bellach, gryn archwaeth at ymdroi gyda hanes ambell un o wroniaid Anghydffurfìol y pedwerydd canrif ar bymtheg. Yr oedd yr ysgrifenydd ar ganol darllen "Bywyd a Llythyrau J. A. James," gan y Parch. E. W. Dale, pan y derbyniodd nodyn oddiwrth olygydd parchus y Diwygiwe,, yn dwyn ar gof iddo ei addewid i barotoi ysgrif ar gyfer y cyhoeddiad hwnw rywbryd yn fuan, pryd y daeth y meddwl iddo, pa destyn a fyddai yn well na " John Angell James fel bugail a phregethwr ?" Ysgrif rwydd, frysiog, raid iddi fod, yr ydys yn ofni—gormod felly yn ddiau, ac ystyried teilyng- dod yn nghyd a hynodrwydd y testyn. Yn Nghymru, yn gystal ag yn Lloegr, y mae enw Mr. James yn air teuluaidd er ys tymhor maith. Mewn mil o gylchoedd, fe gofìr am dano gyda pharch dihafal, fel awdwr yr " Ymofynydd Pryderus," " Yr Eglwys o Ddifrif," yn nghyd a lluaws o weithiau tra rhagorol ereill. G-weinyddai Mr. James ar hyd ei oes i'r gynulleidfa Annibynol gryfaf yn Birming- ham; ac megys yr oedd efe ei hun yn hynod yn mysg pregethwyr yr oes, felly hefyd yr oedd yr eglwys dan ei ofal yn hynod o ran ei llwyddiant a'i defnyddioldeb yn mysg eglwysi cynulleidfaol Prydain Pawr. Mangre ei enedigaeth oedd Blandford, tref a saif yn ngwastadedd prydferth y Stour, yn swydd Dorset. Dechreuodd bregethu oddeutu y flwyddyn 1802, pan nad oedd efe eto ond dwy ar bymtheg oed. Yn fuan anogwyd ef i fyned i Gosport, Ue bu yn astudio duwinyddiaeth yn yr athrofa a arolygid y pryd hwnw gan yr hyglod Dr. Bogue. Ymsefydlodd yn Birmingham yn y flwyddyn 180ö. Nifer yr aelodau ypryd hwnw oedd deg a deugain. Yn 1855, sef blwyddyn jubili ei weinidogaeth yn y lle, yr oedd yr eglwys yn rhifo oddeutu mil o aelodau; ac yr oedd y gynulleidfa, yn lle bod yn rhyw gant a haner o rifedi, yn cyrhaedd i rywbeth fel deunaw cant neu ddwy fìl o eneidiau. Nid rhyw hynod o lwyddianus a fu Mr. James yn mlynyddoedd cyntaf ©i weinidogaeth yn hen gapel Carr's Lane. Gallai cofio hyn weini rhyw faint o gysur i ambell frawd ieuanc sydd yn y fan hon neu arall yn gorfod rhwyfo yn mlaen goreu y gall, yn erbyn y gwynt a'r llanw. Yn 10