Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Emt. 329.] CHWEFEOE, 1863. [Cyf. ANNIBYNIAETH. GAN Y PARCH. W. WILLIAMS, HIBWAEN. Cawn ymofyn betli olygir wrth Annibyniaeth eglwysig. Mae y rhai sydd yn dal y ffurf eglwysig yma yn golygu fod gair Duw yn rhoddi awdurdod i gynulleidfa grefyddol ar ei hamgylchiadau, ei dysgyblaeth, a'r drefn a farno hi yn oreu i weithio allan ei chrefydd, heb fod yn gyfrifol i lys gwladol nac eglwysig tu allan iddi ei hun. Mae trefn ei dysgyblaeth, dewisiad a neillduad ei swyddogion, yn ymddiriedaeth a gedwir ganddi megys hawlfraint yn ei llaw ei hun. Mae yr addoldy a'i berthynasau yn eael eu cadw gan ymddiriedolwyr mewn gweithred gyfreithiol iddi, dan yr enw eglwys gynulleidfaol. Mae ganddi ddau lys apeliad mewn rhyw amgylchiadau dyrys, sef gair Duw a phobl Dduw. Mae ei phroffes a'i ffydd yn ei rhwymo at y gair ac at y dystiolaeth; ac y mae ei theimlad a'i phrofìad yn ei rhwymo i fyned at bobl Dduw am gyfarwyddyd a chynghor. Ond os na bydd ynddi gymaint o burdeb a chrefydd ag a wna ei thueddu i ymgynghori â Duw ac â'i bobl pan mewn dyryswch, rhaid ei gadael a'i rhoddi fyny i farn angeu i farw yn nghyndynrwydd ei phechod; oblegyd nis gellir ei gorfodi yn erbyn ei hewyllys gan neb tu allan, hyd y nod at ei lles a'i daioni ei hun. Ond y mae ganddi hawl i alw y sawl a fyno i'w chynghori a'i chyfarwyddo yn yr efengyl. Mae gan ereill hawl i ddy- weyd eu barn am dani hithau, i gondemnio neu gymeradwyo ei gweith- rediadau cyhoeddus yn ngwyneb gair y gwirionedd, ac ysbryd ein Har- glwydd Iesu Grist. Paham y gelwir yr Annibynwyr yn enwad neu blaid grefyddol r Nid ydynt yn enwad ar gyfrif unrhyw rwymyn corfforiaethol neu gyfreithiol, megy8 yr eglwysi henadurol ac esgobyddol. Gelwir hwy yn enwad ar gyfrif eu bod o'r un drefn eglwysig, a'u bod yn dal yr un golygiadau am brif athrawiaethau y Beibl, a'u bod yn dal cymdeithas a'u gilydd trwy eu cyfarfodydd cyhoeddus, a thrwy foddion y wasg^ yn eu cyhoeddiadau inisol a thri misol., Mae ganddynt sefydliadau pwysig wedi eu cyfodi, ac yn cael eu cynal trwy eu cyfraniadau a'u cydweithrediad unol a haelionus, megys eu hathrofáau a'u colegau—eu cymdeithasau cenadol—trysorfa gweinidogion hen a methedig—trysorfa gwragedd gweddwon eu gwein- idogion, a sefydliadau ereill rhy luosog i'w henwi; maent oll wedi eubwr- iadu i hwylusu yr achos da yn eu mysg fel Cristionogion. Gwahaniaetha yr Annibynwyr oddiwrth y Bedyddwyr yn unig yn ordinhad y bedydd. Gwahaniaethant oddiwrth yr Henaduryddion yn fod eu llywodraeth a u