Skip to main content

Ehef. 326.] TACHWEDD, 1862. [öyf. xxvn. LLYTBYR AT ESGOBION CYMHU. " Y cyntaf yn ei hawTa dybir ei fod yn gyfiawn, ond ei gymydog a ddaw ac a'i chwilia ef." —Solomoîî. Fy Arglwyddi,—Ehagwelodd yr Ysbryd a lefarai trwy y doethwr breninol, y buasai eich bath chwi a minau i fod yn y byd ar ei ol ef. Mor briodol a chymhwys y darluniai agwedd feddyliol gwahanol ddosbarth- iadau yn y geiriau uchod. Y mae lluosogrwj'dd o betbau "yn cael eu haeru fel gwirionedd, a'u honi fel ffeithiau, a'u derbyn yn ddiddrygdyb, nad oes iddynt sylfeini a safant yn ngwyneb yr ymchwiliadau mwyaf arwynebol. Cymerir hwynt yn ganiataol gan y naill ddosbarth am y dymunant iddynt fod felly, a chan y dosbarth arall am y dywedir gan wyr o urddas fel chwi a'ch brodyr gyda dilysrwydd penderfynol mai felly y maent. Esgusodwch fi, fy arglwyddi, fel Ymneillduwr Ued selog, am rifo yr Eglwys Sefydledig a'i holl amgylchiadau yn y gyfres fawr yna; Cy- merir apostoleiddrwydd yr eglwys yn ganiataol, ac ar y ffugiant hyny yr adeiledir pentyrau o gyfeiliornadau, nad oes eisieu ond anadl gwirionedd a llygedyn o oleuni i'w chwalu hwynt yn llwch. Y mae offeiriadaeh bach nid ychydig, na wyddant fawr beth oedd y ddoe, fel pe buasent wedi bod ar hyd yr oesau oddiyma yn ol i ddydd y Pentecost, ac yn gyfarwydd a phob amgylchiad yn hanes yr eglwys oddiyno hyd yma, yn sicrhau gwreiddioldeb yr Eglwys Wladol, ei disgyniad diymdro oddiwrth hono yn Jerusalem, ei hunigrwydd, ei huwchafiaeth, eî hurddas, a'i chy- foeth. Yr amheuaeth leiaf o'r pethau hyn sydd yn ddigon i warth- nodi dyn fel heretic peryglus i gymdeithas; ac os cynygir, ar esgyn- lawr neu drwy y wasg, i brofi nad yw eu haeriadau ond <disail a'u honiadau ond gwegi, yn lle tori pen y troseddwr, fel y gwnaed gynt, gor- doir ef ag edliwiadau enllibus, a cheir clywed ysgrech floeddgar, " Yr eglw^'s, yr eglwys!" " Yr eglwys mewn perygl!" "Wchw!" "Cysegr ysbeiliad!" " Eiddo yr eglwys fel corfforaeth!" ac ymdrechir dystewi ym- resymiadau trwy dwrw, a chuddio ffeithiau hanesyddol â difriaeth wat- warus ac awgrymiadau ysgornllyd. Y mae llawer iawn o ddynion goreu eich eglwys, fy arglwyddi, yn credu mewn Esgobyddiaeth fel y drefh. oreu, ond iddi gael bod yn rhydd o fachau y llywodraeth i drefhu ei hachosion, i lywodraethu ei hun, a thalu ei threuliau; ac nid oes un awydd yn un dosbarth o Ymneíllduwyr y wlad chwaith i ddifodi Esgob- yddiaeth, ond i ni allu dadgysylltu Crist a Mammon, a'ch gosod i sefyll yn annibynol a rhydd ar eich gwadnau eich hunain fel sectau Oristionogol ereill; ond o herwydd hyn, priodolir i'r naill ac i'r lleill o honom yr am- canion mwyaf ystrywgar a'r dybenion mwyaf anghrefyddol. Nid oes neb ddiehon siarad nac ysgrifenu am yr eiddo a fwynheir gan yr eglwys, (sef yr esgobion a'r offeiriaid,) heb gael ei ddarostwng i ymosodiadau mwyaf enllibus yr hurwyr a weithroddwch i gyflawni gwaith bryntach nag a garech wneud eich hunain. Os siaredir am yr eiddo eglwysig fel rhyw 41