Skip to main content

Y DIWYGIWR. Eh». 325.] HYDEEF, 1862. ■ [Oy*. XXVII. TEULU BETHANIA. GÀN Y PARCH. LEWIS JAMES, CARFAff* " A hoff oedd gan yr Iesu Martha a'i chwaer, a Lazarus." Yb ydym am roi tro tua Bethania yn nyddiau ein Hiachawdwr. Pentref bychan ydyw, ar ochr ddwyreiniol Mynydd yr Olewydd, tua milltir a haner o Jerusalem. Mae yn fan prydferth yn naturiol; ac am ei fod felly, ac mor gyfleus i'r brif ddinas, mae boneddigìon mewn amgylchiadau da wedi ei ddewis yn lle i dreulio yn dawel weddill eu hoes ynddo. Brithir ef gan breswylfeydd prydferth y rhai hyn. Cylchynir a chysgodir ef gan lwyni gwyrddion o balmwydd ac olewydd. Mae golygfeydd. hyfryd dros wlad eang o'r llechweddau o'i gwmpas Edrychwch tua'r dwyrain, dyna wlad fryniog hardd ; rhwng y bryniau draw cawn gipolwg yn awr ac yn y man ar afon yr Iorddonen yn ymlusgo ei chorff gloew yn araf i waered tua'r Môr Marw; tuhwnt y gwelwch fynydd Nebo, a gwlad goediog Grilead. Cymerwch daith o ddeng mynyd gyda chyfaill—cyrhaeddwch ben Mynydd yr Olewydd—yn eich ymyl y gwelweh Jerusalem, "yddi- nas santaidd"—ei heolydd, ei phinaclau, ei phalasau—Mynydd Sion a'r deml, " tegwch bro, llawenydd yr holl ddaear." Tuhwnt draw y gwelwch fryniau, a mynyddoedd, a chymydd " Gwlad yr Addewid," mewn amryw- iaeth mawr, yn ymestyn yn mhell tua Môr y Canoldir. Yn mynwes Mynydd yr Olewydd yn y fan yna y mae Bethania. Ond nid prydferthwch y lle yn unig sydd yn ein harwain yno. Y mae un teulu nodedig yn byw yno. Yr ydym am roi tro am y teulu ; a'r hyn sydd yn ein gwneuthur yn fwy parod i wneud hyny yw, fod yr Iesu yn arfer cyrchu i'r lle ; yma y lletyai pan ddeuai i fyny i Jerusalem ; yma y daeth y prydnawn y daeth i fyny o Jericho wedi rhoddi ei olwg i Bartimeus; oddiyma yr aeth mewn gorym- daith fuddugoliaethus tua Jerusalem y dydd canlynol; yr oedd yn aml yma—gartref yma ; eisteddai gyda'r teulu wrth y bwrdd ac ar yr aelwyd ; adroddai iddynt hanesion hynod, ac esboniai y pethau am dano ei hun. Yr ydym am fyned yno ynte, yn anad pob peth, er mwyn cael ychydig o gyfeillach a'r Iesu. Cluded Ysbryd Duw ni mor llwyr yno, ac argraffed gymeriad y teulu mor ddwfn ar ein calon, nes byddom yn awyddus i fod yn. debyg i deulu dedwydd Bethania. Edrychwn ar y teulu—crefydd y teulu, a gwahanol gyfhodau yn hanes y teulu. I. Y Tetjltt. "Martha a'i chwaer, a Lazarus." Martha. Enwir hi yn gyntaf fe allai am mai hi oedd yr hynaf—pen y teulu. Dywed Luc, " A bu, a hwy yn ymdeithio, ddyfod o hono i ryw dref: a rhyw wraig a'i henw Martha a'i derbyniodd ef i'w thy." Oddiwrth hyn, a rhanau ereill o'i hanes, mae'n bur debyg mai hi oedd yr hynaf. Un . fywiog, weithgar, ofalus, oedd Martha; troai yn gyflym ar ei throed; 57.