Skip to main content

Y DIWYGIWR. Bim?. 3?3.] AẀST, 1862. [Cîf. XXVU. YMNEILLDITAD Y DDWY FIL, AB. DDYDD BARTHOLOMEW 1662. " Ystyriais y dyddiau gynt.*'—Salmydd. Rhaglith. Mae yn weddus i ni wneuthur ychydig o nodiadau i egluro ein testyn, o barthed i'r Ddwy Fil; oddiwrth ba beth yr ymneill- duasant; a'r dydd ar yr hwn yr ymneillduasant. Y Ddwy Fil hyn oedd- ynt yr offeiriaid, y pregethwyr, a'r ysgolfeistri a berthynent i'r eglwys wladwriaethol. Cyn sefydliad Esgobyddiaeth, a gosodiad Deddf- yr Un- ffurfiaeth mewn grym, yr oedd y nifer amlaf o'r offeiriaid urddedig yn gwasanaethu plwyfau neillduol, ac ereill yn bregethwyr teithiol, heb fod a gofal plwyfau neillduol arnynt; yr oedd y rhai hyn wedi eu hanfon allan gan ddirprwywyr y Uywodraeth, a derbynient gyfiogau ganddynt am eu gwasanaeth a'u llafur. Nid oedd yn yr amser hwnw orfodaeth ar bawb i .broffesu credu yr un peth, ac arfer yr un ffurfwasanaeth crefyddol, fel y rhaid i bawb yn yr Eglwys Sefydledig yn ein dyddiau ni. Ỳr oedd yr Arglwydd Amddiffynydd, Cromwell, yn fwy ffafriol i Annibyniaeth a Phresbyteriaeth nag i un drefn eglwysig arall; ond chwareuteg iddo, ni chynygiodd efe osod un o'r cyfundrefnau hyn i fod yn grefydd sefydledig, a rhwymo ereill i gydffurfìo a hwynt neu ymadael a'u bywioliaethau. Yn ei amser ef yr oedd yr Esgobyddion, y Presbyteriaid, a'r Annibynwyr yn cael cydwasanaethu y llywodraeth, yn cydfwyta ar ei bwrdd hi, ac yn cyd- dderbyn eu cyfìogau oddiwrthi. Yr oedd pob un at ei ryddid i ddewis ei ffurfwasanaeth ei hun. Yr oedd y pryd hwnw Hyfforddwr Addoliad Cy- hoeddus, ond nid oedd ffurf o wasanaeth yn rhwymedig i'w arfer. Nid oedd y dynion a anfonwyd allan chwaith i bregethu yr efengyl i Gymru, ac i lanw lleoedd offeiriaid anghyfaddas i'r llanau Cymreig, yn rhai o'r un sect; canys yr oedd rhai yn AnnibynwjT, rhai yn Bresbyteriaid, a rhai yn Esgobyddion. Nid oedd y rhan fwyaf o'r rhai a ymneillduasant ar ddydd Bartholomew, yn edrych ar y cysylltiad sydd rhwng eglwys a llyw- odraeth wladol yn yr un goleu ag yr edrychir arno gan eu holynwyr yn yr oes bresenol. Mae yn ymddangos nad oedd hyn yn ddrwg yn eu tyb hwy, oni buasai i'r llywodraeth fyned mor hyf a rhyfygus a cheisio arglwydd- iaethu ar eu cydwybodau hwy; ond y mae eu holyniaid yn edrych ar y cysylltiad ynddo ei hun yn ddrwg ag sydd yn darostwng crefydd, o fod yn egwyddor ysbrydol a bywiol, i fod yn bentwr o ddefodau a ffurfiau cnawdol a difywyd. Ieuo breniniaeth ysbrydol yn anghymharus yw hyn, " â breniniaeth y byd hwn. Oddiwrth y grefydd a sefydlwyd gan y llyw- odraeth wladol trwy gyfraith y mae y rhai hyn wedi ymneülduo, gan ym- adael â chyfundeb yr Eglwys Wladol. Nifer y rhai a ymneillduasant ar yr un adeg ydoedd dwyfìl a phum cant. Y gyfran Gymreig o'r nifer hwn ydoedd cmt a chwech. Cyfran go dda, onide ? Y mae enwau yr Anghyd- 29